Gwasanaeth canser arloesol yn cynnig gobaith i filoedd

  • Cyhoeddwyd
Kate Molton
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kate Molton yn byw bywyd normal gyda chanser yr ysgyfaint gradd 4

Bydd miloedd yn rhagor o gleifion canser yng Nghymru yn byw'n hirach ac yn gallu osgoi ymweliadau ysbyty a thriniaethau cemotherapi diolch i wasanaeth arloesol newydd gan y GIG.

Mae gwasanaeth CYSGODI (Cymru Service for Genomic Oncology Diagnoses) yn bwriadu cynyddu'n sylweddol ar eu gallu i gynnal profion genetig.

O ganlyniad, bydd doctoriaid yn gallu adnabod mwy o newidiadau mewn mwy o enynnau nag erioed o'r blaen - cynnydd o 30 i 500.

Trwy well dealltwriaeth o eneteg canser bydd y GIG yn gallu cynnig triniaethau wedi eu teilwra ar gyfer unigolion, sy'n golygu y bydd angen llai o apwyntiadau ysbyty a chemotherapi.

Cynnal mwy o brofion

Mae'n golygu y gall rhai cleifion gyda chanser gradd pedwar barhau i weithio a byw bywyd mor normal â phosib.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn caniatáu i feddygon brofi am fwy o wahanol fathau o diwmorau nag erioed o'r blaen.

Mae Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan (All Wales Medical Genomic Service - AWGOG) o fewn Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, yn bwriadu parhau i ehangu ei gapasiti i gynnal profion dros y 10 mlynedd nesaf.

Rhian White
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwasanaeth yn ehangu ar y gallu i wneud profion genomegol ar gyfer cleifion gyda chanser, meddai Rhian White

Dywedodd y prif wyddonydd canser genomegol, Rhian White: "Clefyd y genom ydy canser, ac mae'r gwasanaeth CYSGODI yn golygu y gallwn ehangu ein profi genomegol ar gyfer cleifion gyda chanser.

"Hyd yma dydyn ni ond wedi gallu adnabod newidiadau genetig mewn tua 30 o enynnau, ond mae'r gwasanaeth yn golygu y gallwn nawr adnabod newidiadau mewn tua 500 o enynnau.

"Rydym hefyd yn gallu profi mwy o wahanol fathau o diwmorau felly mae'r gwasanaeth ar hyn o bryd yn ymwneud â phrofi canserau'r ysgyfaint, colorectal, melanomas a chwpl o fathau eraill.

"Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn gallu dechrau profi ar gyfer ystod llawer mwy eang o diwmorau."

Gwella ansawdd bywyd

Bydd mwy o gleifion sydd â chanser datblygedig yn gallu defnyddio triniaethau amgen yn eu cartref hefyd, yn hytrach na mynd drwy brosesau mwy ymledol.

Gall triniaethau o'r fath fod yn haws eu goddef, a gallent wella ansawdd bywyd cleifion.

Dywedodd Dr Samantha Cox, oncolegydd clinigol yng nghanolfan canser Felindre, a chadeirydd AWGOG: "Mae'r profi genynnol yma yn rhoi'r arfau angenrheidiol i'r timau clinigol er mwyn adnabod y triniaethau gorau.

"Mae i gyd yn ymwneud â chyflwyno meddyginiaeth fanwl gywir er budd cleifion, achos rydym yn gwybod os allwn ni dargedu newidiadau penodol yn y DNA, gallwn ddiffodd y signalau hynny sy'n dweud wrth y celloedd canser i dyfu'n fwy effeithiol.

"Pan fyddwn yn cymharu triniaethau gwrth-ganser newydd gyda rhai mwy traddodiadol fel cemotherapi, rydym yn gwybod bod y canlyniadau yn aml yn well yn nhermau rheoli'r canser yn well a helpu cleifion i fyw'n hirach."

Dr Sam Cox
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r profion genynnol yn rhoi arfau angenrheidiol i'r timau clinigol, yn ôl Dr Samantha Cox

Cafodd Kate Molton o Gaerdydd ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint gradd pedwar yn 2017.

Ar ôl profi samplau gwelodd doctoriaid nad oedd angen trin ei thiwmor gyda chemotherapi.

Neidiodd Ms Molton, 57, ar y cyfle i gael triniaeth amgen.

"Am ei fod yn ganser gradd pedwar, meddyliais y byddwn angen rhaglen hirach o chemo," meddai.

"Roeddwn i ofn mai chemo fyddai'r unig opsiwn pan gefais wybod i ddechrau."

Yn lle hynny cafodd Ms Molton feddyginiaeth i'w gymryd adref, a dros y pedair blynedd ddiwethaf dyw hi ond wedi gorfod cymryd un dabled y dydd.

Mae hynny wedi caniatáu iddi weithio a byw bywyd normal.

"Mae yna sgil effeithiau ond i roedd hynny'n well na chemotherapi. Rydych chi'n dysgu byw gyda nhw neu mae'n bosib cael meddyginiaeth arall i drin y sgil effeithiau," meddai.

peiriant profion genynnol
Disgrifiad o’r llun,

Peiriant newydd ar gyfer cynnal profion genynnol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd

"Mae rhai o'r sgil effeithiau'n gallu bod yn ddychrynllyd, fel y croen yn hollti i lawr ochr eich ewinedd, neu rash ar y corff, ond mae modd cael eli sy'n trin y broblem.

"Mae'n gallu bod yn erchyll ond i mi mae'n well na byw gyda chemo."

Ychwanegodd: "Pe baech chi yn fy ngweld i, fyddech chi ddim yn gwybod bod canser arnaf fi oherwydd y driniaeth yma. Dwi'n byw bywyd hollol normal.

"Y cyflwr mwyaf gwanychol sydd gennyf yw crydcymalau gwynegol."

Dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan: "Mae CYSGODI yn rhoi Cymru ar y blaen yn nhermau profi genomeg yn y DU, ac mae'n cadarnhau ein lle fel arweinydd yn y maes.

"Bydd y gwasanaeth hwn yn cynnig profi arloesol ac opsiynau triniaeth i bobl gyda chanser ac yn cefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol i ofalu am fwy o bobl gan ddefnyddio'r gwelliannau genomaidd diweddaraf."