Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-3 Sheffield United

  • Cyhoeddwyd
Morgan Gibbs-White sgorio gôl wychFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Morgan Gibbs-White gôl wych i ddod â'r sgôr yn gyfartal

Daeth Sheffield United yn ôl i guro'r Adar Gleision 3-2 yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn.

Rhoddodd blaenwr Cymru, Mark Harris, y tîm cartref ar y blaen ar yr egwyl, cyn i'r capten Sean Morrison gael ei anfon i ffwrdd.

Fe drodd y gêm ar ei phen wedi i Billy Sharp roi'r ymwelwyr ar y blaen, a hynny wedi i Morgan Gibbs-White sgorio gôl wych i unioni'r sgôr.

Fe wnaeth David McGoldrick y pwyntiau'n ddiogel, gyda Mark McGuinness yn penio gôl gysur i Gaerdydd.

Mae'r fuddugoliaeth yn codi'r Blades i 10fed yn y Bencampwriaeth, tra bod Caerdydd yn disgyn i 21ain, un lle uwchben safleoedd y cwymp.