Y Gynghrair Genedlaethol: Dover Athletic 0-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Fe sgoriodd Jordan Davies yn syth o gic gornel ar ôl 84 munud o chwaraeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Jordan Davies yn syth o gic gornel ar ôl 84 munud o chwarae

Sicrhaodd gôl hwyr Jordan Davies fuddugoliaeth galed i Wrecsam oddi cartref yn Dover Athletic, sydd ar waelod y Gynghrair Genedlaethol.

Roedd Wrecsam yn llwyr reoli'r hanner cyntaf, ond fe wastraffodd Aaron Hayden a Paul Mullin gyfleoedd da.

Roedd Dover wedi gwella'n fawr yn yr ail hanner ond fe sgoriodd Davies yn uniongyrchol o gornel gyda chwe munud yn weddill.

Mae'r Dreigiau'n symud i fyny i'r pedwerydd safle tra bod Dover, sydd eto i ennill y tymor yma, yn aros ar y gwaelod.