Cwblhau ffordd osgoi Caernarfon 'yn gynnar yn 2022'
- Cyhoeddwyd

Cafodd tua 1,000 o bobl leol gyfle i gerdded ar hyd rhan o'r ffordd newydd ddydd Sul
Mae costau adeiladu ffordd osgoi Caernarfon wedi cynyddu rhywfaint i £139m, gydag effeithiau'r pandemig yn un o'r rhesymau.
£135m oedd yr amcangyfrif diwethaf, cyn i coronafeirws daro.
Er hynny, dywedodd Llywodraeth Cymru fod y cynllun "ar amser i'w gwblhau yn gynnar yn 2022".
Dydd Sul cafodd rhyw 1,000 o bobl leol gyfle i gerdded ar hyd rhan o'r ffordd newydd.
'Adegau reit bryderus'
Dywedodd Elgan Ellis, un o reolwyr y prosiect adeiladu ar ran cwmnïau Jones Bros a Balfour Beatty, fod Covid wedi bod yn "ychydig o sialens, ond 'da ni wedi dod drosto fo".
"Un peth da o ran Covid, roedd y ffyrdd yn dawel am ran fawr o'r amser oedden ni'n gweithio yma. Ddaru hynny'n helpu ni," meddai.
"Ond roedd yna rai adegau reit bryderus pan oedd Covid yn cychwyn - lot o'r hogiau yn poeni ac roedd hi reit anodd ar adegau i gadw'r morâl i fyny.
"Mae'r gost wedi cynyddu ychydig, ond dim mwy na fysa rhywun yn disgwyl mae'n siŵr efo newidiadau Covid. Mae yna bethau ychwanegol eraill hefyd."

Daeth Gwyndaf Williams i gerdded y ffordd osgoi gyda'i deulu
Yn ôl Mr Ellis does dim dyddiad pendant wedi'i glustnodi i agor y ffordd newydd yn 2022.
"Mae'n dibynnu ar y tywydd," meddai, "ond mae pethau yn argoeli'n dda."
Mewn datganiad eglurodd Llywodraeth Cymru fod yr amcangyfrif newydd o £139m yn "cynnwys costau ychwanegol sy'n ofynnol i ddelio â phandemig Covid-19, gan alluogi i'r gwaith barhau'n ddiogel drwy gydol y cyfnod".
"Cyflwynwyd darpariaeth teithio llesol a mesurau lliniaru amgylcheddol ychwanegol hefyd," meddai.

Fe wnaeth Lois Evans, un o drefnwyr y daith gerdded, ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth
Bu trigolion lleol yn cerdded ddydd Sul o gylchfan Meifod ger Bontnewydd yr holl ffordd at Lanwnda ac yn ôl.
Fe fydd y ffordd osgoi dros chwe milltir o hyd yn ei chyfanrwydd.
Yn ôl Lois Evans o Balfour Beatty, un o drefnwyr y daith gerdded, maen nhw wedi achub ar gyfle i godi arian i elusennau ac ysgolion lleol ac i "ddiolch i bobl am eu cefnogaeth tra 'da ni wedi bod yn adeiladu'r ffordd".
'Byd o wahaniaeth i'r traffig'
Roedd Olive Jones, sy'n byw ym Methel, yn un o'r cerddwyr.
"Maen nhw wedi gwneud gwaith ardderchog," meddai. "Bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr, yn enwedig i drigolion Bontnewydd a'r rheiny sy'n trafeilio i Gaernarfon ac ymhellach bob dydd."
Daeth Gwyndaf Williams i gerdded y ffordd osgoi gyda'i deulu ac Oscar y ci.
"'Da ni'n byw yn Saron, ac mae'r lonydd cefn yn fanno yn gallu bod yn reit brysur - yn enwedig yn yr haf. Gobeithio neith y lôn wahaniaeth i ni."

Roedd Delyth Hughes yn un o'r cannoedd a ddaeth i gerdded y ffordd ddydd Sul
Roedd Delyth Hughes o Dinas yn llawn canmoliaeth i'r gweithwyr.
"Chwarae teg maen nhw wedi cario ymlaen i weithio drwy'r pandemig i gyd," meddai.
"Dyna pam maen nhw ar schedule i orffen mewn pryd dwi'n meddwl.
"Mae o'n mynd i wneud byd o wahaniaeth i'r traffig."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd24 Mai 2018