'Angen gwneud rhywbeth' i atal damweiniau Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
Dylan Jones ar Stryd y Degwm
Disgrifiad o’r llun,

Dylan Jones tu allan i'w gartref sydd ger pen uchaf y bontffordd sy'n mynd heibio canol Caernarfon

Mae dyn sy'n byw ar lon brysur yng nghanol Caernarfon yn galw am wella diogelwch ar y ffordd yn dilyn chwe gwrthdrawiad o flaen ei dŷ yn y naw mis diwethaf.

Mae Dylan Jones, sy'n byw ar Stryd y Degwm ar yr A487, yn dweud fod y traffig wedi cynyddu'n aruthrol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o ganlyniad i bobl yn ymweld â'r ardal a bod lonydd eraill ynghau oherwydd y gwaith o adeiladu ffordd osgoi Bontnewydd a Chaernarfon.

Yn ôl Mr Jones fe darodd un car y wal o flaen ei dŷ gan achosi £2,000 o ddifrod.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y lôn dan sylw yn distewi pan fydd y ffordd osgoi yn agor y flwyddyn nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dylan Jones fe darodd un car y wal o flaen ei dŷ gan achosi £2,000 o ddifrod

Mae Mr Jones wedi byw ar Stryd y Degwm ers 15 mlynedd ac mae'n dweud nad ydy o erioed wedi profi traffig mor drwm â hyn.

"Mae'r chwe mis diwethaf 'di bod yn beyond, dwi 'rioed di gweld dim byd tebyg," meddai.

"Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae mwy o bobl wedi bod yn mynd ar wyliau yma, mwy o geir ar y lôn.

"Yn y 70au pan gafodd y lôn yma ei chynllunio doedd gan neb syniad fasa traffig wedi cynyddu fel y mae hi, mae'r ffordd osgoi yn agor ymhen rhai misoedd ond efo'r holl ddamweiniau ma' angen cynllun dros dro cyn i rywun frifo."

Ffynhonnell y llun, Dylan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna apêl am gamau i ddiogelu pobl leol yn sgil ofnau bod mwy o draffig ar y ffordd yn ddiweddar

Yn ôl Mr Jones mae'r twf yn nifer y ceir sydd ar y lôn o ganlyniad i nifer o ffactorau, gan gynnwys gwaith adeiladu ffordd osgoi Bontnewydd a Chaernarfon.

Er ei fod yn derbyn mai problem dros dro yw hyn cyn i'r lôn newydd agor, mae'n dweud fod angen cynllun er mwyn diogelu pobl leol.

"Mae 'na ddau gar 'di dod off y flyover, a'th un i ochr y pub ac un arall 'di cymryd ffens allan. Ges i werth £2,000 o damage i wal ffrynt - near misses ydyn nhw, dwi jest yn falch fod neb wedi brifo.

"Mae angen gwneud rhywbeth cyn i rywun frifo."

Mae Mr Jones yn dweud ei fod hefyd am weld rhagor o faniau heddlu yn plismona'r ardal a'i fod am weld y terfyn cyflymder yn gostwng i 20mya.

Disgrifiad o’r llun,

Un arall o'r gwrthdrawiadau ar Stryd y Degwm yn y misoedd diwethaf

Mae'r rhan yma o'r A487 yn cysylltu ardaloedd fel gogledd-ddwyrain Cymru a Lloegr i ardaloedd poblogaidd fel Porthmadog a Phen Llŷn.

Yn ôl y cynghorydd lleol Cai Larsen mae'r broblem yn bryder.

"Mae hyn yn broblem ac mae rhywun yn teimlo dros bobl y stryd," meddai.

"Ond mae 'na broblem ehangach ar hyd lôn parc, mae traffig yn drwm, drwm ar hyn o bryd.

"Ddim yn bell fyny fan'na mi oedd 'na ddamwain lle a'th 'na gar mewn i wal, mae'n lôn gul ac mai'n anodd i bobl gerdded."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Cai Larsen o blaid cyfyngu cyflymder traffig yn yr ardal i 20mya

Yn ôl y Cynghorydd Larsen mi fyddai hefyd yn croesawu gweld terfyn cyflymder o 20mya ar hyd y lôn dan sylw, ac ar hyd gweddill yr A487 tuag at Bontnewydd.

"Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel yn eu tai a'u chartrefi," meddai.

Tra'i fod yn derbyn y bydd y lôn yn distewi, mae hefyd yn codi pryderon a fydd mwy yn goryrru pan fydd y lôn yn distewi.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "rhagdybio y bydd traffig yn gostegu ar hyd y lonydd" dan sylw unwaith y bydd ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd yn cael ei gwblhau.

Doedd Cyngor Gwynedd ddim am wneud sylw, gan ddweud mai mater i Lywodraeth Cymru oedd hon.

Mae disgwyl i'r ffordd osgoi agor yng ngwanwyn 2022, gyda'r awdurdod lleol yn amcangyfrif y bydd 'na ostyngiad sylweddol yn lefel y traffig.

Pynciau cysylltiedig