Pencadlys cynhyrchu beiciau mynydd yn 'gwireddu breuddwyd'

  • Cyhoeddwyd
Beic Atherton

Mae teulu sy'n enwog ar draws y byd am feicio mynydd yn sefydlu pencadlys newydd i gynhyrchu eu beic ei hunain yn y canolbarth.

Bu'r teulu Atherton - Rachel a'i brodyr hŷn Dan a Gee - yn dominyddu beicio mynydd am flynyddoedd, gan ennill 49 o rowndiau cwpan y byd ac wyth pencampwriaeth y byd rhyngddyn nhw.

Nawr mae eu sylw wedi symud o rasio at eu cwmni cynhyrchu, Atherton Bikes, sydd â phencadlys newydd ym Machynlleth.

Er mwyn gwneud eu beiciau mae'r cwmni'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, sydd fel arfer yn cael ei defnyddio gan y diwydiant awyrofod neu mewn ceir rasio Fformiwla 1.

Bydd beiciau'r teulu Atherton ar werth ar-lein cyn hir pan fydd gwefan yn cael ei lansio yn ddiweddarach y mis hwn.

Disgrifiad o’r llun,

Dan, Gee a Rachel Atherton - teulu sydd wedi gwneud marc sylweddol yn y byd beicio mynydd

Mae sefydlu'r pencadlys yn "gwireddu breuddwyd", medd Rachel Atherton.

"Ry'n ni wedi byw yma ers amser maith a'r freuddwyd oedd cael y busnes yma ym Mach. Ry'n ni'n byw lawr y ffordd, felly mae hyn mor cŵl.

"Mae'n freuddwyd ac alla i ddim credu ei fod yn digwydd."

'Dipyn o gartref ysbrydol'

Dywedodd Gee Atherton fod y lleoliad yn ddelfrydol ar gyfer y busnes.

"Dwi'n credu bod y cysylltiad gyda'r ardal hon yn bodoli am ei bod hi mor anhygoel ar gyfer beicio. Dyna wnaeth ein tynnu ni i'r ardal yn wreiddiol.

"Dechreuodd fy mrawd hŷn Dan greu traciau yn yr ardal a bydden ni bob amser yn reidio yma. Doedd y penderfyniad i symud y pencadlys yma ddim yn un anodd. Roedd yn gwneud synnwyr perffaith.

"Mae'n bendant yn dipyn o gartref ysbrydol i feicio mynydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r beic newydd yn ysgafn ond yn gryf, medd un o staff y cwmni, Peter Davies

Ar hyn o bryd mae'r cwmni'n cyflogi 12 o bobl ac yn gobeithio tyfu i rhwng 20 a 30 aelod o staff yn ystod y tair blynedd nesaf.

Dywedodd Peter Davies, sydd gyda'r cwmni ers 2018, mai yn ardal Machynlleth y dechreuodd beicio mynydd nôl yn y 1980au.

"Ie, yn ardal Machynlleth a Corris fi'n credu, a dyna pam roedd y teulu Atherton wedi symud yma tua phum mlynedd yn ôl i wneud tracs fan hyn a nawr mae pobl eraill yn dod yma.

"Nawr maen nhw wedi dechrau gwneud eu beics ym Machynlleth gan ddefnyddio additive manufacturing efo lygs titaniwm a thiwbiau carbon fibre. Mae'n golygu bod y beic yn ysgafn ond yn gryf iawn."

Cyfleoedd gwaith amrywiol

Dywed prif weithredwr y cwmni, Dan Brown, y byddai'r swyddi newydd mewn sawl maes amrywiol - marchnata, peirianneg, gwerthu a chynhyrchu.

"Bydd ystod enfawr o wahanol rolau ry'n ni'n gobeithio eu cyflwyno i bobl leol yn ogystal â dod â thalent o bellach i ffwrdd," meddai.

"Ry'n ni'n edrych i ddatblygu ac ry'n ni'n edrych i dyfu, a gyda hynny daw swyddi a chyfleoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd yna ystod o swyddi wrth i'r cwmni dyfu, medd y prif weithredwr Dan Brown

Mae beiciau Atherton yn cael eu gwneud gan ddefnyddio proses sy'n cynnwys argraffydd 3D sy'n printio darnau - yn yr achos hwn bracedi a lygiau titaniwm sy'n uno tiwbiau ffibr carbon y beic gyda'i gilydd.

Mae Will May-White yn gweithio ar yr argraffydd 3D sy'n cymryd 16 awr i wneud swp o ddarnau. Dywedodd fod yna lawer o fanteision i'r dechnoleg.

"Mae titaniwm yn ddeunydd hynod gryf ac yn ysgafn dros ben," meddai. "Mae cydbwysedd braf yno.

"Hefyd trwy'r broses argraffu 3D, ry'n ni'n gwneud yr union beth ry'n ni ei angen. Ry'n ni'n adfer tua 97% o'r holl bowdr [titaniwm], felly ychydig iawn o wastraff sydd yna.

"Fe allwn ni argraffu i archebu, felly mae pob un [o'r darnau] wedi'i addasu i geometreg rhywun, i'w maint, sy'n rhoi mantais enfawr i ni. Rydyn ni'n ddeinamig ac ystwyth iawn fel cwmni."

Disgrifiad o’r llun,

Will May-White a Dan Brown yn trafod y broses argraffu

Symudodd Will, sy'n wreiddiol o Abertawe, i Fryste i weithio ym maes peirianneg gyda chwmni uwch-dechnoleg arall.

"Symudais i Loegr i weithio i Rolls Royce, a nawr dwi wedi dod yn ôl yma ac ry'n ni'n ceisio gwthio'r ffiniau i mewn i Gymru a dod â gweithgynhyrchu technoleg uwch yn ôl i'r wlad hon," meddai.

"Gobeithio y gallwn ni wneud marc ym Machynlleth a chanolbarth Cymru."

Symudodd y cwmni ei ffatri gynhyrchu o Fynwy i Fachynlleth er mwyn bod yn agos at Barc Beicio Dyfi, a sefydlwyd gan Dan Atherton yn 2019.

Mae'r cwmni'n defnyddio llwybrau beicio mynydd y parc i brofi eu beiciau eu hunain, meddai Dan Brown.

"Y prif benderfyniad ar gyfer y symud oedd sicrhau ein bod yn agos at ein gwreiddiau o ran cyfleuster ar gyfer profi."

Ffynhonnell y llun, Dyfi Bike Park
Disgrifiad o’r llun,

Beiciwr mynydd ym Mharc Beicio Dyfi

Ychwanegodd: "Ry'n ni'n gwneud llawer o brofion ar y cynnyrch gan ddefnyddio'r Athertons, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a gwybodaeth y tîm rasio o fod ar gylched rasio i ddatblygu'r cynnyrch a rhoi hynny yn y beic gorffenedig.

"Lai na milltir i ffwrdd [o'r pencadlys] mae 'na dirwedd anhygoel o draciau o safon fyd-eang, felly mae'n berffaith."

Mae'r parc hefyd yn denu tua 400 o ymwelwyr bob penwythnos, gyda llawer ohonynt yn aros mewn llety lleol, er budd yr economi leol.

Mae'r Cynghorydd John Pughe Roberts, sy'n cynrychioli ardal Dinas Mawddwy ar Gyngor Gwynedd, yn adnabod y teulu Atherton ac yn cefnogi eu gwaith yn yr ardal.

"Mae'r brand yn cynyddu rŵan," meddai. "Maen nhw'n dod â gwneuthuriad y beic i Fachynlleth ac mae hynny'n dda iawn i'r ardal ond maen nhw hefyd yn gallu testio yn y bike park hefyd sydd yn dod â gwaith i'r ardal, ac yn atyniad i dwristiaid hefyd.

"Mae twristiaeth beic yn enfawr y dyddiau yma - ddim jest beicio mynydd ond beicio ffordd hefyd. Mae gan un o bob pedwar car sy'n dod i'r ardal feic ar ei gefn."

'Dyfodol disglair iawn'

Gobaith y cwmni, wrth iddo dyfu, yw y bydd mwy o swyddi'n cael eu creu ym Machynlleth, ac y gall y cwmni helpu i adfywio'r ardal yn ôl Dan Brown.

"Mae gan Fachynlleth a'r ardal yn ne Eryri rai o'r ardaloedd beicio gorau yn y byd," meddai.

"Gwelsom y potensial ac ry'n ni wir eisiau gweithio gyda'r gymuned leol i ddatblygu'r ardal gyfan yn nhermau twristiaeth, ond hefyd gyda gwaith cynhyrchu a chlymu'r cwmni beiciau â hynny.

"Dwi'n credu bod y dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn."