Treth y cyngor: Newid cyntaf i fandiau ers 2003?

  • Cyhoeddwyd
Council tax billFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweinidogion yn ystyried ailbrisio eiddo preswyl am y tro cyntaf ers 2003

Gallai bandiau y dreth gyngor newid dan gynlluniau ad-drefnu sy'n cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru.

Mae gweinidogion yn ystyried ailbrisio eiddo preswyl am y tro cyntaf ers 2003.

Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal y flwyddyn nesaf. Y tro diwethaf i'r system newid, fe gododd traean o filiau.

Nod gweinidogion ydy gwneud y dreth yn decach, ond mae'r Ceidwadwyr yn dweud bod yn rhaid amddiffyn teuluoedd rhag biliau uwch.

Dydy'r ailbrisio ddim o reidrwydd yn mynd i arwain at filiau uwch, medd Llywodraeth Cymru.

Mae'r cynllun yn rhan o'r cytundeb rhwng llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, gafodd ei lofnodi'r wythnos ddiwethaf.

Sut mae'r dreth yn gweithio?

Mae faint o dreth rydych chi'n ei dalu yn dibynnu ar werth eich cartref, ond mae hi'n 18 mlynedd ers y tro diwethaf i gartrefi Cymru gael eu prisio.

Mae tai yn cael eu graddio i fandiau o A i I, gyda thai ym mand A - sy'n werth llai na £44,000 - yn talu'r dreth gyngor isaf, gyda rhai yn mand I, sy'n werth mwy na £424,000 - yn talu'r mwyaf.

Mae mwy o gartrefi ym mand C yng Nghymru (gwerth rhwng £65,001 - £91,000) nag unrhyw fand arall, gyda thrigolion ar gyfartaledd yn talu £1,538 y flwyddyn o dreth.

Dywed beirniaid fod angen diweddaru'r dreth gan ei bod yn seiliedig ar hen werthoedd eiddo, ac nad yw'n trethu pobl sydd ar incwm is yn deg.

A fydd bandiau newydd?

Mae ymgynghoriad ar y mater yn sôn am gyflwyno newidiadau mwy sylfaenol ar ôl tymor cyfredol y Senedd, sy'n dod i ben yn 2026.

Mae'r dreth gyngor yn cael ei defnyddio i ariannu gwasanaethau a reolir gan lywodraeth leol yn rhannol, gyda Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu arian.

Fe allai'r ymarfer ailbrisio, meddai swyddogion, gynnwys bandiau newydd sy'n cael eu hychwanegu at bennau uchaf neu waelod y raddfa i adlewyrchu cyfoeth cartrefi a gallu pobl i dalu yn well.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dreth yn ddibynnol ar werth yr eiddo

Mae gweinidogion eisiau i ailbrisiadau ddigwydd yn amlach yn y dyfodol, a dywed swyddogion na fydd prisiau tai uwch o reidrwydd yn arwain at unigolion yn talu mwy o dreth y cyngor.

Pan ddigwyddodd yr ailbrisiad diwethaf, fe wnaeth un o bob tri chartref yng Nghymru godi band, roedd 8% wedi mynd i lawr band.

Does dim ailbrisio wedi bod ers hynny, er mai hwn yw'r ymarfer diweddaraf o'r fath ym Mhrydain, gyda'r Alban a Lloegr yn dal i ddefnyddio gwerthoedd tai o 1991.

'Hen ffasiwn'

Dywedodd astudiaeth a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol (IFS) fod y dreth gyngor yn "hen ffasiwn".

Dywedodd yr IFS hefyd bod eiddo mewn "bandiau treth" sydd â dim "llawer o berthynas o bosibl â'r realiti cyfredol".

Galwodd am ailbrisio a diwygio'r dreth, gan ddweud na fyddai ailbrisio ar ei phen ei hun yn cael "fawr o effaith ar filiau treth cyfartalog gwahanol fathau o aelwydydd".

Mae'r IFS yn galw am system lle mae preswylwyr yn talu treth sydd wedi'i gysylltu â gwerth amcangyfrifedig eiddo, yn hytrach na band.

Dywedodd yr astudiaeth y gallai hynny olygu bod 21% o aelwydydd sydd â'r incwm isaf yn gweld eu bil treth yn gostwng £200 y flwyddyn, tra byddai 3% yn gweld cynnydd o fwy na £200.

Dywedodd David Phillips, o'r IFS, fod yr ailbrisio yn "newyddion da" a'i fod yn croesawu bod diwygio mwy eang ar y gweill yn y tymor hir.

"Efallai y bydd pobl yn poeni y bydd codiadau mawr ym mhrisiau eiddo dros y ddau ddegawd diwethaf yn golygu y byddai ailbrisio yn arwain at gynnydd mawr ym miliau treth y cyngor ar gyfartaledd," meddai, "ond fydd o ddim."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun yn rhan o'r cytundeb rhwng llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru

Mewn cyfweliad â BBC Politics Wales, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod yn cael ei ddenu at drethi gwerth tir "fel ffordd decach a gwell o ddelio â'r ffordd rydyn ni'n talu am wasanaethau lleol".

Byddai system o'r fath yn gweld pobl yn talu treth yn ôl gwerth y tir y maent yn ei berchen, yn hytrach na'r eiddo sydd wedi ei adeiladu arno.

Dywedodd y gallai gymryd degawd i symud i system o'r fath, ond ychwanegodd fod gweinidogion Plaid Cymru a Llafur wedi "ymrwymo ar y cyd i beidio â chaniatáu i annhegwch y system bresennol barhau".

'Angen moderneiddio'

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: "Rydyn ni eisiau moderneiddio'r system dreth gyngor a'i gwneud yn decach. Rydyn ni am wneud treth gyngor yn fwy blaengar wrth ei dylunio a'i darparu."

Ychwanegodd Sian Gwenllian, o Blaid Cymru: "Rydym wedi dadlau ers amser bod y system bresennol yn effeithio'n anghymesur ar ardaloedd tlotach ac mae'n hen bryd newid.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at ddatblygu system decach a mwy blaengar wrth i ni roi ein cytundeb cydweithredu â Llywodraeth Cymru ar waith."

Ond dywedodd Gweinidog Cysgodol Llywodraeth Leol Ceidwadwyr Cymru, Sam Rowlands: "Y tro diwethaf i ailbrisio ddigwydd yng Nghymru cafodd un o bob tri theulu eu taro gyda biliau uwch - ac wrth i ni ail-adeiladu wedi'r pandemig, gall hynny ddim digwydd eto.

"Dylai Llafur a'u ffrindiau Plaid yn y glymblaid ddefnyddio rhai o'r biliynnau yn rhagor o arian Llywodraeth y DU ariannu cynghorau lleol yn iawn er mwyn sicrhau bod teuluoedd ddim yn cael eu taro yn annheg gyda biliau treth gyngor uwch yn y blynyddoedd i ddod."