Llafur a Phlaid Cymru yn cymeradwyo cytundeb cydweithio
- Cyhoeddwyd
Mae cyrff llywodraethu Llafur Cymru a Phlaid Cymru wedi cymeradwyo cytundeb cydweithredu rhwng y ddwy blaid yn y Senedd.
Dywedwyd wrth BBC Cymru fod "cefnogaeth gadarn" i'r cytundeb o fewn pwyllgor gweithredol Llafur Cymru.
Fe wnaeth pwyllgor gweithredol cenedlaethol Plaid Cymru hefyd gefnogi'r cytundeb ond bydd hefyd angen cefnogaeth aelodau'r blaid.
Mae'r "cytundeb eang" yn cynnwys addewid i ehangu prydau ysgol am ddim i holl blant cynradd.
Mae hefyd yn cynnwys cynlluniau i newid treth y cyngor a gwasanaethau cymdeithasol, ehangu gofal plant am ddim a mesurau i fynd i'r afael ag ail gartrefi.
Mae cynlluniau hefyd i greu cwmnïau cyhoeddus ar gyfer ynni ac adeiladu, mesurau i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a newidiadau i faint a system etholiadol y Senedd - gan gynnwys addewid o gael yr un faint o ddynion a menywod.
'Datganoli pwerau darlledu'
Mae BBC Cymru yn deall hefyd fod y cytundeb yn cynnwys ymrwymiad i "ystyried creu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu i Gymru, i fynd i'r afael â'n pryderon am sefyllfa fregus y wasg ac ymosodiadau ar ei hannibyniaeth".
"Byddai'r corff hwn yn cefnogi defnydd o'r iaith Gymraeg, yn enwedig yn ddigidol," meddai'r cytundeb.
"Ry'n ni'n credu y dylai pwerau darlledu a chyfathrebu gael eu datganoli i Gymru."
Mae disgwyl i'r cytundeb gael ei gyhoeddi ddydd Llun.
Mae disgwyl iddo hefyd gynnwys cynlluniau ar gyfer cyflwyno treth twristiaid ar rai mannau, a diwygio'r system bresennol ar gyfer sicrhau diogelwch adeiladau yn sgil trychineb Grenfell.
Bydd y pleidiau hefyd yn gweithio i "wobrwyo gweithwyr iechyd a gofal".
Fe fyddai'r cynlluniau ar gyfer delio ag ail gartrefi yn cynnwys cyfyngu ar y nifer y gall unrhyw berson fod yn berchen arnynt, cynlluniau i drwyddedu tai gwyliau fel Airbnbs a rhoi mwy o bwerau i gynghorau godi mwy o dreth ar ail gartrefi.
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud yn y gorffennol fod angen y trafodaethau am nad oes gan y blaid fwyafrif i ddelio â "materion heriol ac uchelgeisiol".
Fe ddaeth y trafodaethau i'r amlwg ym mis Medi, wedi i'r ddwy blaid fod yn trafod dros yr haf am ba bolisïau allen nhw gydweithio arnynt.
Ni fyddai'r cytundeb yn glymblaid, ac ni fyddai ASau Plaid Cymru'n rhan o'r llywodraeth.
Ond mae BBC Cymru yn deall y byddai modd i Blaid Cymru benodi cynghorwyr arbennig i weithio ar y cytundeb o fewn y llywodraeth.
'Anobaith a gwallgofrwydd'
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r trafodaethau.
Dywedodd yr Aelod Ceidwadol o'r Senedd, Sam Kurtz, ddydd Gwener: "Pleidleisiwch am Lafur, fe gewch chi Plaid. Pleidleisiwch Plaid, fe gewch chi Lafur."
Yn siarad ym mis Medi dywedodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Does ond angen edrych ar raglen bolisi Llafur Cymru i weld eu bod yn hesb o syniadau.
"Ond mae troi at genedlaetholwyr heb fandad yn weithred o anobaith a gwallgofrwydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd14 Medi 2021