Gohirio cyngherddau'r Stereophonics yn sgil Omicron

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
StereophonicsFfynhonnell y llun, Stereophonics

Mae dau gyngerdd gan y Stereophonics yng Nghaerdydd ddiwedd wythnos nesaf wedi cael eu gohirio tan fis Mehefin yn sgil bygythiad tebygol yr amrywiolyn Omicron.

Dywed y trefnwyr bod dim dewis ond gwneud y penderfyniad "anodd" i'w gohirio "yn sgil sefyllfa iechyd cyhoeddus sy'n datblygu".

Daw'r cyhoeddiad wedi i Stadiwm Principality a'r cwmni sy'n hybu'r cyngherddau, Kilimanjaro Live, ofyn wrth Lywodraeth Cymru am y cyngor diweddaraf o ran cyfyngiadau wrth gynnal digwyddiadau torfol dan do.

Daeth cadarnhad ddydd Mawrth bod pumed achos Omicron wedi ei gadarnhau yng Nghymru - pob un yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, ac mae Llywodraeth Cymru'n rhagweld "ton sylweddol" o achosion i gyrraedd uchafbwynt erbyn diwedd Ionawr.

Roedd yna feirniadaeth hallt y llynedd wedi methiant i ganslo neu ohirio cyngerdd olaf y Stereophonics yng Nghaerdydd, a gafodd ei gynnal ddyddiau cyn i Lywodraeth y DU gyhoeddi dechrau cyfnod clo cyntaf y pandemig.

Y pryder oedd bod caniatáu i filoedd o bobl fod dan do ar ddwy noson yn olynol yn Arena Motorpoint yn gyfle i'r feirws ledu, er nad oedd yna gyngor ar y pryd i beidio â bwrw ymlaen gyda'r fath ddigwyddiadau.

Cafodd gêm rygbi Chwe Gwlad Cymru yn erbyn Yr Alban, oedd i fod i ddigwydd yn Stadiwm Principality yr un penwythnos, ei chanslo oherwydd lledaeniad Covid-19.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna feirniadaeth pan berfformiodd y Stereophonics yng Nghaerdydd y llynedd, ddyddiau cyn y clo mawr cyntaf

Mae'r cyngherddau oedd i fod i ddigwydd nos Wener 17 Rhagfyr a nos Sadwrn 18 Rhagfyr bellach ymlaen nos Wener 17 Mehefin a nos Sadwrn 18 Mehefin.

Bydd Syr Tom Jones a Catfish and The Bottlemen hefyd yn dal yn perfformio ar y nosweithiau hynny.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Stadiwm Principality a Kilimanjaro eu bod yn ymddiheuro i bawb ynghlwm â'r cyngherddau wrth gyhoeddi'r gohiriad.

Dywed y trefnwyr eu bod "wedi gofyn am fwy o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o'r canllawiau cyfredol a gofynion cyfreithiol o ran gorchuddio'r wyneb.

"Yn anffodus, wrth i'r bygythiad ddod i'r amlwg o ran amrywiolion newydd a'r cyfyngiadau mewn grym fel canolfan dan do, mae'n amhosib cynnal y cyngherddau'n ddiogel a sicrhau bod canllawiau'r llywodraeth a'r gyfraith yn cael eu dilyn.

"Ein prif flaenoriaeth, yn gyson, yw diogelwch a lles y dorf a'r holl staff sy'n gweithio yn y cyngherddau hyn, a'r gallu i roi profiad rhagorol i'r dorf.

"Rydym yn gwneud y penderfyniad yma nawr i roi'r amser hiraf posib i bobl newid eu cynlluniau.

"Rydym yn ymddiheuro i'r holl ddilynwyr, artistiaid a'u criwiau am unrhyw anghyfleustra sydd wedi ei achosi, ond edrychwn ymlaen at ddychwelyd a rhoi croeso i bawb ym Mehefin y flwyddyn nesaf."

Mae The Libertines hefyd wedi canslo perfformiad oedd i fod i ddigwydd yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd nos Iau 9 Rhagfyr.