Cynnig trydydd pigiad Covid cyn 'ton sylweddol' Omicron
- Cyhoeddwyd
Bydd pob oedolyn sy'n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu yn cael cynnig pigiad erbyn diwedd Ionawr, yn ôl Gweinidog Iechyd Cymru.
Daw hyn wrth i'r llywodraeth ddisgwyl i "don sylweddol" o Omicron daro Cymru, gyda'i brig ar ddiwedd mis Ionawr.
Bydd y gwasanaeth iechyd yn anelu at gynnig dros 200,000 o frechiadau'r wythnos yn yr wythnosau i ddod, medd Eluned Morgan.
Bydd mwy o ganolfannau brechu "cerdded i mewn" a rhai sy'n cynnig pigiadau drwy ffenestr car yn cael eu hagor ac mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn unwaith eto am gymorth y lluoedd arfog.
Mae hyn yn golygu fod Cymru wedi mabwysiadu'r un targed brechu â Lloegr a'r Alban.
Dywedodd Ms Morgan mai brechiad atgyfnerthu fyddai'r "anrheg orau y gallwch chi ei rhoi i'ch hunain a'ch teulu eleni".
Ychwanegodd y dylai pawb wneud prawf llif unffordd cyn cwrdd ag eraill dros y Nadolig, yn enwedig os oes yna bobl fregus yn bresennol.
Mae yna hefyd anogaeth i ferched beichiog gael eu brechu cyn bod amrywiolyn Omicron yn gafael yng Nghymru.
Fel rhan o'r ymateb i fygythiad yr amrywiolyn Omicron, mae'r gwasanaeth iechyd eisoes wedi cynyddu faint o frechiadau atgyfnerthu sy'n cael eu dosbarthu.
Mae mwy na 19,000 o frechiadau y dydd yn cael eu rhoi ar hyn o bryd a'r nod dros yr wythnosau nesaf fydd cynyddu hynny i fwy na 200,000 yr wythnos.
"Ystyriwch fod poblogaeth Abertawe tua 246,000. Felly mae hynny'n llawer o frechlynnau i'w cyflwyno bob wythnos," meddai Ms Morgan.
"Rydyn ni'n mynd i gyrraedd 1.3 miliwn o bobl ychwanegol dros yr wythnosau nesaf.
"Mae'n dasg Hercwleaidd."
Yn ogystal ag agor mwy o ganolfannau brechu, bydd meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol yn parhau i roi brechiadau a bydd gweithwyr llywodraeth leol, gwasanaethau tân a myfyrwyr yn darparu cymorth o fath arall i glinigau.
Er taw'r nod yw cynyddu capasiti, mae'r Gweinidog Iechyd yn mynnu y dylai pobl aros am wahoddiad cyn mynd am frechiad, gyda'r gwahoddiadau'n cael eu hanfon ar sail oedran a pha mor fregus yw unigolyn.
"Rhowch flaenoriaeth i'ch apwyntiad cyn popeth arall i gefnogi'r staff a'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio'n galed yn ein canolfannau brechu," meddai Eluned Morgan mewn apêl i'r cyhoedd.
"Gyda lefelau uchel o'r amrywiolyn Delta yn y gymuned ac ymddangosiad yr amrywiolyn Omicron, gallwch barhau i amharu ar drosglwyddiad y feirws drwy wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, cael prawf, hunan-ynysu pan fyddwch wedi cael canlyniad positif a chael eich brechu."
Mae yna ddigon o frechlynnau Pfizer a Moderna ar gael i bawb fedru cael pigiad atgyfnerthu, meddai'r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Dr Gill Richardson.
Gofynnodd Dr Richardson i gyflogwyr ganiatáu i'w staff gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith er mwyn cael eu brechu.
Fe wnaeth hi hefyd apelio i bobl osgoi canslo'u hapwyntiadau.
"I nifer, dyma fydd eu hail Nadolig yn brechu pobl, cefnogwch nhw trwy flaenoriaethu a throi lan i'ch hapwyntiad."
Ychwanegodd mai tywydd gwael byddai'r rhwystr mwyaf wrth geisio brechu pobl ar frys dros y gaeaf yn sgîl bygythiad Omicron.
Fe wnaeth eira "darfu" ar y rhaglen frechu yn gynharach eleni, meddai Dr Richardson, ac felly nawr mae'n rhaid gosod targedu brechu dyddiol "sydd o bosib yn uwch na'r hyn sy'n rhaid ei wneud bob dydd".
Annog merched beichiog i gael eu brechu
Dywed Dr Richardson y dylai merched beichiog gael eu brechu, gan ddweud bod "mwy o ferched beichiog heb eu brechu mewn unedau gofal dwys na'r hyn a ddylai fod".
Mae ffigyrau diweddar yn dangos bod un claf ymhob chwech yn derbyn triniaeth ddwys ECMO (Extracorporeal membrane oxygenation) tra'n feichiog, meddai.
Ychwanegodd Dr Richardson bod y penderfyniad yn "anodd iawn" a bod "merched yn poeni ac yn bryderus".
Ond dywedodd bod yn rhaid i ferched beichiog siarad â bydwragedd a phartneriaid am y brechlyn "gan ein bod yn drist iawn wedi profi trasiedïau go iawn wrth i rai merched beichiog orfod adael eu teuluoedd yn sgil amrywiolyn Delta".
Awydd fferyllfeydd i helpu mwy
Yn y cyfamser mae corff sy'n cynrychioli 700 o fferyllfeydd cymunedol wedi mynegi parodrwydd i gyfrannu mwy i'r ymdrech o ddosbarthu brechiadau atgyfnerthu, gan ddweud fod 'na ddiffyg cysondeb ar draws byrddau iechyd.
Er taw mis Rhagfyr yw'r cyfnod prysuraf i fferyllwyr, dywed Mo Nezemi o'r grŵp Fferyllwyr Cymunedol yng Nghymru bod aelodau'n barod i helpu.
"Mae'r gwaith yma mor fawr a phwysig - ry'n ni'n credu'n gryf bod fferyllfeydd cymunedol â'r gallu i helpu mewn sawl man," meddai Mr Nazemi, sy'n berchen ar 10 o ganghennau Evans Pharmacy yn ne a gorllewin Cymru.
"Mae'r comisiynu gan fyrddau iechyd yn amrywiol iawn, nid yw'n gyfartal ledled Cymru. Mae hynny'n heriol i rai fferyllfeydd oherwydd eu bod eisiau cymryd mwy o ran."
Mae Mr Nazemi yn cydnabod na all pob fferyllfa ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol, gan fod y galw eisoes ar gynnydd cyn i'r pandemig gynyddu eu llwyth gwaith.
Serch hynny, dywedodd: "Mae 'na gapasiti mewn mannau ac o fewn ein rhwydwaith - rydyn ni wir yn credu y dylen ni fod yn rhan o'r ateb."
O'r 130,448 o frechiadau sydd wedi cael eu dosbarthu yng Nghymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf mae 117,247 wedi bod yn bigiadau atgyfnerthu, sef 90% o'r holl frechiadau yn y cyfnod yma.
Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod 88% o bobl yn eu 70au a 64% o bobl yn eu 60au wedi cael trydydd brechiad hyd yma.
Yn ddiweddar mae'r rhaglen frechu wedi llwyddo i ddosbarthu tua 19,000 o frechiadau y dydd ond ar ei anterth yn ystod y gwanwyn roedd y rhaglen yn llwyddo i frechu tua 40,000 y dydd.
Hyd yma mae pedwar achos o'r amrywiolyn Omicron wedi cael eu darganfod yng Nghymru - pob un yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.
Mae tri o'r pedwar gyda chysylltiad â theithio neu'n gysylltiad agos a rhywun sydd wedi teithio dramor, ond mae arbenigwyr yn dal i ymchwilio i'r pedwerydd achos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2021