'Ni ddylai'r fferi fod wedi hwylio yn y lle cyntaf'
- Cyhoeddwyd
Mae teithiwr ar long fferi a fethodd â docio yng Nghaergybi am dros 24 awr oherwydd Storm Barra wedi cwestiynu doethineb cynnal y daith yn y lle cyntaf.
Yn ôl Lilly King, roedd yr amodau ar long Ulysses cwmni Irish Ferries, "yn wirioneddol ddychrynllyd" ac fe awgrymodd bod y penderfyniad i beidio â chanslo'r daith yn "anghywir".
Fe adawodd yr Ulysses Ddulyn am 20:55 nos Fawrth ac roedd i fod i gyrraedd Caergybi am 05:00 fore Mercher ond oherwydd gwyntoedd cryfion ni ddigwyddodd hynny tan 22:40 nos Fercher.
Mae BBC Cymru wedi gofyn wrth Irish Ferries am sylw ond nid oedd y cwmni'n dymuno ymateb.
Cafodd un o longau fferi cwmni Stena, oedd i fod i gyrraedd Caergybi am 08:00 fore Mercher, drafferthion tebyg, gan ddocio yng Nghaergybi tua hanner nos.
Roedd Ms King, 24, yn teithio gyda'i nain Margaret King, 76, ei thad Gary, 50, a'i hewythr Declan, 40.
Mewn neges ar Twitter fe honnodd bod y daith "yn anniogel, yn taflu pobl a phethau o ochr i ochr... rydym yn sownd ar y môr ac rydan ni'n ofnus".
Dywedodd wrth BBC Cymru: "Mae'n wirioneddol ddychrynllyd.
"Dydw i ddim yn meddwl y dylai'r llong yma fod wedi gallu hwylio yn y lle cyntaf. Mae rhywun wedi gwneud y penderfyniad anghywir.
"Rydan ni mor wael gyda salwch môr. Mae fy nain oedrannus wedi bod yn chwydu trwy'r dydd."
Roedd taith bedair awr mewn car i'w cartref yn Sir Bedford yn wynebu'r teulu ar ôl gadael y llong fferi.
Mae'r BBC ar ddeall bod yr Ulysses wedi ceisio docio deirgwaith yng Nghaergybi.
Cafodd teithwyr fwyd a chabanau am ddim.
Erbyn bore Iau roedd y Stena Adventurer wedi dychwelyd i Ddulyn ac roedd yr Ulysses yn croesi Môr Iwerddon am Ddulyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2021