Bocsio i bobl digartref sydd wedi eu 'curo gan fywyd'

  • Cyhoeddwyd
Bocsio i'r digartrefFfynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd

"Mae lot o'r bobl digartref yn y sefyllfa yna oherwydd bod nhw wedi cael eu curo gan fywyd. Pan mae pethau'n anodd mewn bywyd maen nhw'n ildio'n syth gan feddwl bod nhw'n mynd i fethu eto. Ond yn y dosbarthiadau bocsio maen nhw'n dysgu sut i ddyfalbarhau."

Dyma eiriau Rob Green, sy'n gweithio gyda'r digartref ar ran Cyngor Caerdydd ac sy'n gyfrifol am gychwyn rhaglen o ddosbarthiadau bocsio i bobl digartref yn yr ardal.

Ysbardun

Pan ddechreuodd Rob wneud hyfforddiant bocsio ei hun, sylweddolodd y byddai'n ffordd dda o wella iechyd corfforol a meddyliol ei gleientiaid digartref felly penderfynodd gychwyn cwrs 10 wythnos gyda Clwb Bocsio Phoenix Llanrhymni.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Rob (ar y chwith) yn un o'r dosbarthiadau bocsio

Aeth y prosiect o nerth i nerth, fel mae Rob yn ei esbonio: "Bocsio oedd y pioneer a chychwyn yr holl beth.

"Ond nawr ni wedi tyfu i gynnwys crefft ymladd cymysg (mixed martial arts) a dosbarth arbennig i fenywod, sy' wedi cychwyn deufis yn ôl.

"Ni'n trio creu rhywbeth sy'n wirioneddol arbennig - dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw beth tebyg ar gyfer pobl digartref."

Mae'r gwersi yn gymysgedd o dwymo'r corff, ymarferion caled a bocsio, yn ôl Rob: "Maen nhw bron fel gwersi boxercise ond 10 gwaith caletach - mae'n heriol iawn. Ond mae'r intensity yn rhoi teimlad o gyflawni i'r rhai sy'n cymryd rhan."

Ac mae Rob wedi gweld y bobl sy'n dod i'r gwersi yn Llanrhymni ac yng nghampfa'r Hanger yng Nghaerdydd yn elwa'n fawr o'r disgyblaeth: "Mae'r dyfalbarhau maen nhw'n dysgu o'r gwersi yn rhywbeth chi ddim yn gallu mesur.

"Maen nhw'n dod mewn, yn teimlo'n nerfus ac yn orbryderus - mae gorbryder yn rheswm pam dyw lot o bobl ddim hyd yn oed yn cyrraedd y drws ffrynt.

"Ond mae'r ffaith bod nhw wedi dod mewn, cadw i fynd drwy sesiwn anodd ac wedi dyfalbarhau - dyna'r prif beth i fi.

"Mi allen nhw ildio unrhyw bryd ond maen nhw'n cael eu cymell i beidio rhoi fyny gan y coach a'r staff anhygoel yma. Ni'n rhoi y dyfalbarhad yna iddyn nhw.

"A phan maen nhw'n mynd nôl i'r byd go iawn maen nhw'n cofio pa mor galed weithion nhw fan hyn ac yn cofio fod yr holl waith wedi talu'r ffordd.

"Ac mae'r mentality yna'n parhau ac maen nhw'n dysgu bod nhw'n gallu cyflawni pan maen nhw'n gweithio'n galed."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Hyfforddwr bocsio Tony (ar y dde) yn gweithio gydag un o'r cleientiaid

Caethiwed

Yn ogystal â helpu gyda iechyd corfforol a meddwl, mae'r sesiynau yn gallu helpu gyda phroblemau caethiwed, yn ôl Rob: "Mae lot o bobl gyda addictions yn defnyddio pethau allan o boredom, does dim byd arall gyda nhw i neud felly i drio pasio'r amser maen nhw'n gwneud pethau fel yfed alcohol neu cyffuriau.

"Mae hynny'n dod yn fodolaeth iddynt ac maen nhw'n teimlo nad oes unrhyw beth arall yn bwysig.

"Pan ni'n rhoi'r cyfle yma iddyn nhw godi o'r gwely a gwneud y bocsio er mwyn teimlo'n dda am eu hunain, mae'n newid deinamig eu patrwm dyddiol - yn lle codi a defnyddio cyffuriau neu alcohol mae hwn yn gyfle i wneud rhywbeth gwahanol.

"Maen nhw yma, maen nhw'n engaged ac yn teimlo'n positif achos mae'r endorphins a'r cyflawni yn helpu nhw i deimlo'n dda am eu hunain.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd

Awyrgylch y dosbarth

"Mae'r awyrgylch yn wych. Does dim byd ond positifrwydd. Mae'r wers yn dechrau'n dawel oherwydd mae lot o bobl yn bryderus i gychwyn ond, erbyn y diwedd, diolch i'r coach a'r staff cefnogi, maen nhw'n mwynhau."

Mae Rob yn gweld cymysgedd o bobl yn y dosbarthiadau gyda nifer yn dod o dde Cymru ond rhai hefyd yn dod o tu fas i Gymru.

Mae'r mwyafrif yn byw mewn llety arbennig ar gyfer y digartref.

Meddai Rob: "Mae cymysgedd o bobl yn y dosbarthiadau bocsio - ond maen nhw i gyd yn ddigartref yn dilyn profiadau trawmatig sy' wedi arwain at y problemau iechyd meddwl."

Dadl deuluol

Un sy'n cymryd rhan yn y gwersi bocsio yw Caitlin sy'n dod o Gaerdydd.

Mae Caitlin, sy'n 22 oed, yn esbonio beth ddigwyddodd i arwain ati'n byw mewn llety i'r digartref: "Roedd 'na gweryl mawr yn y teulu a nes i beni fyny yn yr ysbyty oherwydd fy iechyd meddwl.

"Ac wedyn o'n i'n ddigartref o Ebrill 2021 ymlaen."

Mae Caitlin yn mwynhau'r sesiynau ac yn edrych ymlaen atyn nhw bob wythnos: "O'n i'n stryglo i godi o'r gwely ac mae'r sesiynau yn helpu fi i motivatio fy hun. Os dwi'n gwybod fod bocsio ymlaen dwi'n mynd i godi o'r gwely."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Cwrs bocsio i fenywod yn unig sy' wedi cychwyn yn hydref 2021

Bywyd ar y stryd

Un sgil sy'n ddefnyddiol i'r rhai sy'n mynychu'r gwersi yw amddiffyn eu hunain.

Meddai Rob: "Mae'n help mawr - mewn bocsio ti'n sefyll fyny a ti'n blocio ac yn amddiffyn dy hun.

"Yn y dosbarthiadau crefft ymladd cymysg (mixed martial arts) ni'n gwneud lot o waith llawr hefyd. Mae lot o bobl sy'n cysgu mewn drysau yn cael eu ymosod arnynt pan maen nhw'n cysgu - os ti'n pinned i'r llawr, mae'r gwersi'n dangos i ti sut i ddianc o'r sefyllfa hynny."

Gwaith tîm

Un o'r buddiannau mwyaf o'r dosbarthiadau yw'r ymdeimlad o fod yn rhan o dîm, yn ôl Rob: "Er fod bocsio'n gamp unigol mae'r ffordd maen nhw'n cymell eu hunain drwy'r dosbarth yn ffantastig. Mae'n rhaid i chi brofi'r awyrgylch i'w ddeall, mae'n lle anhygoel i fod.

"Un o'r pethau dwi'n gwneud i annog yr ethos tîm yw cael crysau-T tîm wedi eu printio i bawb - am y tro cyntaf maen nhw'n teimlo fel bod nhw'n rhan o rywbeth pan maen nhw'n rhoi'r crys-T yna ymlaen.

"Maen nhw'n teimlo'n rhan o dîm, ac mae lot ohonynt heb brofi hynny o'r blaen.

"Mae Caitlin yn sôn am rai o'r heriau mae hi wedi ei wynebu gyda'i theulu hi ac mae'n dod yma a chael 'teulu' arall sy'n annog a motivatio hi yn y bocsio a thu allan i'r bocsio. Mae ganddi bobl i'w chysuro nawr.

"Mae 'na lot o bobl sy'n dod i'r dosbarth sy'n reclusive i gychwyn - ond erbyn y diwedd yn dweud pa mor ddiolchgar maen nhw i gael y cyfle."

Pynciau cysylltiedig