Cwpan Pencampwyr Ewrop: Rygbi Caerdydd 7-39 Toulouse
- Cyhoeddwyd

Roedd Rygbi Caerdydd ar y blaen am gyfnod wedi cais Josh Adams
Brwydr Dafydd yn erbyn Goliath oedd hi brynhawn Sadwrn ar Barc yr Arfau wrth i dîm Rygbi Caerdydd orfod wynebu y pencampwyr heb 32 o'u chwaraewyr gan eu bod yn hunan-ynysu ar ôl dychwelyd o Dde Affrica.
Ond wedi 21 munud roedd Caerdydd ar y blaen (7-6) wedi cais Josh Adams a chic lwyddiannus Jason Tovey.
Ond er perfformiad annisgwyl o dda gan y tîm cartref a chamgymeriadau gan yr ymwelwyr, Toulouse oedd yn fuddugol wedi ceisiau gan Anthony Jelonch, Pita Ahki, Antoine Dupont, Arthur Bonneval a Joe Tekori.
Cicio Romain Ntamack a sicrhaodd y pwyntiau eraill i'r ymwelwyr - dwy gic gosb a phedwar trosiad.
Y sgôr terfynol oedd Caerdydd 7, Toulouse 39 gyda'r ymwelwyr yn sicrhau pwynt bonws.
Cyn y gêm roedd Gruff Rees, Hyfforddwr Dros Dro Rygbi Caerdydd, wedi dweud ei bod hi'n bwysig i'r tîm ddangos balchder.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ddechrau'r wythnos fe wnaeth y Scarlets ildio eu gêm yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yn erbyn Bryste a oedd fod i'w chynnal ddydd Sadwrn gan fod rhan fwyaf y garfan yn hunan-ynysu yn Belffast.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2021