Seiclwr 17 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd
Mae seiclwr 17 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint brynhawn Sul.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar y B5441 yn ardal Sealand ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr toc cyn 17:00.
Fe wnaeth y llu ddisgrifio'r digwyddiad fel "gwrthdrawiad beic". Dyw hi ddim yn eglur a oedd cerbyd hefyd yn rhan o'r digwyddiad.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y bachgen wedi cael ei gludo i'r ysbyty ond y bu farw'n ddiweddarach.
Ychwanegon nhw eu bod ymchwilio i'r "amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad trasig yma".
Mae'r llu yn apelio ar unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â fideo dash-cam o'r ardal cyn y digwyddiad i gysylltu â nhw.