Hunanladdiad: Ple mam i bobl ifanc ar ôl colli ei merch

  • Cyhoeddwyd
Brodie Morgan gyda'i cheffyl
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Brodie Morgan yn 16 pan fu farw

Mae Mam o Gasnewydd a gollodd ei merch 16 oed wedi iddi ladd ei hun yn annog pobl ifanc i "siarad a gofyn am help".

Dywedodd Emma Webb na welodd "unrhyw arwydd" bod ei merch, Brodie, yn bwriadu lladd ei hun ym mis Mawrth 2020.

Mae Emma wedi cwblhau her gerdded 285 milltir er cof am ei merch a phob person fu farw yn dilyn hunanladdiad yng Nghymru y llynedd.

Nod Ms Webb yw annog eraill i rannu eu teimladau a gofyn am help.

Dywedodd Emma: "Roedd Brodie yn ferch mor, mor arbennig. Gwneud i bobl chwerthin bob amser. Mor glyfar ym mhopeth, popeth oedd hi'n gyflawni."

Yn ôl ei mam, roedd Brodie yn berson uchelgeisiol yn yr ysgol ac roedd wrth ei bodd yn neidio ceffylau.

Ychwanegodd: "Dwi ddim yn gwybod sut y gwnaeth hi jyglo gwaith academaidd a'r ceffyl, oherwydd doedd dim amser rhwng y ddau."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Brodie yn treulio'u hamser tu allan i'r ysgol yn neidio ceffylau.

Yn ôl Emma Webb, doedd ganddi ddim syniad bod ei merch yn bwriadu lladd ei hun.

Roedd hi'n ymwybodol y bu rhai "materion" yn yr ysgol a'i bod wedi ei chael hi'n anodd am rai misoedd gyda theimlo'n "ynysig".

Ond roedd yr hyn a ddigwyddodd y noson honno ym mis Mawrth yn "hollol annisgwyl" yn ôl Emma.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Emma, 46 a'i merch berthynas agos.

Ar 10 Mawrth 2020, fe aeth Emma a Brodie i'r stablau yng Nghasnewydd at ei cheffyl.

"Roedd popeth yn ymddangos yn hynod o normal" pan gasglodd ei merch o'r ysgol, yn ôl Emma.

Ar ôl i Emma sylwi nad oedd Brodie wedi dod adref, aeth i'r stablau ond doedd dim golwg ohoni.

Fe ddaeth yr heddlu o hyd iddi ar ôl chwilio y noson honno. Roedd Brodie wedi lladd ei hun.

'Hi oedd y peth pwysicaf yn fy mywyd'

Dywedodd Emma: "Alla i ddim wir roi mewn geiriau ac egluro sut roeddwn i'n teimlo. Ry' chi'n meddwl nad yw hyd yn oed yn digwydd... y sioc. Dwi ddim wir yn cofio'r noson honno o gwbl," meddai Emma.

"Roedd gennym ni berthynas mor agos. Allwn i ddim credu y byddai Brodie wedi gwneud rhywbeth felly heb siarad gyda fi."

Ni adawodd Brodie negeseuon ar gyfer ei theulu, ond anfonodd negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol at rai o'i ffrindiau i ddweud "cymaint yr oedd hi'n eu caru a'i bod yn wirioneddol ddrwg ganddi".

Ychwanegodd Emma: "Hi oedd fy mywyd, hi oedd fy mhwrpas i fyw mewn gwirionedd. Dwi wedi torri fy nghalon hebddi. Mae'n anodd codi a chario ymlaen. Hi oedd fy unig blentyn, hi oedd y peth pwysicaf yn fy mywyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Emma Webb yn annog pobl ifanc i siarad os ydynt yn teimlo'n isel.

Ers marwolaeth ei merch, dywedodd Emma Webb ei bod yn awyddus i beidio "eistedd a dioddef."

18 mis yn ddiweddarach, dechreuodd hi gerdded. Ei nod oedd cwblhau 285 milltir er cof am y 285 o bobl fu farw trwy hunanladdiad yng Nghymru yn 2020.

Roedd dros 500 o achosion o bobl rhwng 10 a 24 oed yn lladd eu hunain yng Nghymru a Lloegr yn 2020.

Dywedodd yr elusen atal hunanladdiad ieuenctid, Papyrus mai hunanladdiad yw'r prif achos marwolaeth ymhlith pobl dan 35 oed yn y DU.

Ar ôl cael ei hysbrydoli gan dri thad a gerddodd 300 milltir er cof am eu merched, mae Emma wedi codi dros £7,500 i Papyrus.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gerddodd Emma 285 o filltiroedd i godi arian ar gyfer elusen atal hunanladdiad

Ar y diwrnod y byddai Brodie wedi dathlu ei phen-blwydd yn 18 oed, fe gwblhaodd Emma'r 12 milltir olaf, gan gerdded o'i man gorffwys mewn eglwys yng Nghasnewydd i'r stablau ceffylau ym Mrynbuga.

Ei nod nawr yw sicrhau bod pobl ifanc eraill yn codi llais os ydyn nhw'n cael trafferth â'u hiechyd meddwl.

Dywedodd: "Yn amlwg, byddai'n well gan rai pobl ifanc siarad â rhywun nad ydyn nhw'n eu hadnabod ac nad ydyn nhw'n gyfarwydd â nhw yn hytrach na'u rhieni - gan eu bod yn eu harddegau.

"Felly dw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl ifanc yn gwybod bod help ar gael iddyn nhw.

"Os ydych chi'n meddwl am hunanladdiad, plîs, plîs os mae'n fater o siarad â'ch rhieni neu ffrindiau, estynnwch allan i ofyn am help oherwydd, mae'n achosi cymaint o ddinistr ac ni fyddai neb eisiau'r canlyniad a gefais i gyda Brodie," dywedodd Emma.

Mae gan wefan arbennig BBC Action Line fanylion am sefydliadau a allai gynnig help os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn teimlo'n ofidus yn emosiynol.

Pynciau cysylltiedig