Hunanladdiad: "Mae 'na help ar gael, ac mae 'na obaith"
- Cyhoeddwyd
A hithau'n Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd ar 10 Medi, Menai Pitts sydd wedi cael sgwrs â thri am eu profiadau.
"Chwalfa, does dim ffordd arall o ddisgrifio'r effaith mae colli Gavin yn y modd yma wedi ei gael."
Ar Awst 13, 2019 cafodd byd Arwel Pugh o Borthmadog ei droi ben i waered pan glywodd bod ei fab Gavin wedi ei ddarganfod yn farw yn ei gartref yng Nghaerdydd. Roedd Gavin yn un o'r 330 o Gymry wnaeth golli eu bywyd i hunanladdiad yn 2019. Ers 1981 mae dros 12,000 o bobl wedi colli eu bywyd i hunanladdiad yng Nghymru.
Ni ddychmygodd Arwel am eiliad bod bywyd Gavin mewn peryg wrth iddo ffarwelio a dweud "wela i chi mewn deg diwrnod" wrth adael Porthmadog ar ôl treulio'r penwythnos efo'i dad.
Roedd Gavin, oedd yn 27 oed, yn dychwelyd i weithio ar ôl bod yn absennol oherwydd iselder a gor-bryder ac yn ystod ei apwyntiad meddygol olaf dywedodd ei fod yn teimlo ei fod yn gwella. Roedd popeth yn ymddangos i fod o dan reolaeth.
Yn gorfforol, roedd Gavin yn ffit, yn rhedwr brwd. Sylwodd Arwel un bore bod Gavin yn diferu o chwys a gofynnodd a oedd o wedi bod yn rhedeg - doedd o heb. Erbyn hyn mae Arwel yn deall bod chwysu yn gallu bod yn symptom corfforol o straen a gor-bryder.
Roedd Gavin yn berffeithydd, yn weithgar, uchelgeisiol a phenderfynol o lwyddo, pasiodd ei brawf gyrru theori ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 17, derbyniodd radd dosbarth cyntaf mewn Cyfrifeg, roedd yn gweithio i Lywodraeth Cymru ac yn astudio am gymhwyster proffesiynol i fod yn gyfrifydd siartedig nodedig. Roedd wedi pasio mwyafrif yr arholiadau a chafodd siom wrth fethu pasio un arholiad pwysig.
Mae iselder yn gallu golygu bod rhywun yn canolbwyntio ar y methiannau a'r siomedigaethau, yn gweld yr ochr negyddol ac yn methu gweld gwerth eu hunain na chredu bod pethau'n gallu gwella.
"Dim eisiau marw o'n i, eisiau gwared o'r boen."
Mae Karen wedi ceisio hunanladdiad yng nghanol cyfnodau o iselder difrifol. Ers ei harddegau, roedd hwyliau Karen yn amrywio o fod yn hapus, llawn egni, yn ewfforig, i flinder a gofid, paranoia, tristwch ac anobaith.
Pan oedd Karen yn teimlo'n hapus roedd hi'n awyddus i bawb arall fod yn hapus hefyd, ac fe aeth i ddyled; fe aeth ag unigolion digartref i siopa ym Mangor a phrynu dillad newydd iddynt. "O'n i ar mission i achub pawb," meddai.
Yna yn dilyn yr highs, yn anorfod daeth iselder difrifol. Roedd Karen yn gyndyn o drafod yr iselder efo teulu a ffrindiau: "O'n i ddim isio pasio'r baich ymlaen i rywun arall, dim isio iddyn nhw orfod poeni amdana i."
Roedd Karen yn 31 mlwydd oed cyn iddi gael diagnosis o anhwylder deubegynol (bipolar disorder), a bu'r cyflwr dan reolaeth nes iddi weld ymgynghorydd meddygol gwahanol a stopio cymryd meddyginiaethau rhai misoedd yn ôl.
Cafodd gyfnod anodd a phrofiadau o seicosis ac iselder, ceisiodd hunanladdiad, a diolch i ymyrraeth ffrind, mae hi'n dal yma ac yn falch o fod yn fyw.
Eglurodd bod gwendidau a bylchau amlwg mewn gofal iechyd meddwl ond "mae 'na help proffesiynol ar gael gan bobl sy'n deall". Roedd Karen yn canmol ei meddyg teulu, ac yn dweud ei bod yn lwcus o gael mynediad i wasanaeth a chefnogaeth, tîm iechyd meddwl, Hergest, a CPN.
Erbyn hyn mae rhai o ffrindiau a teulu Karen yn deall mwy am iechyd meddwl, yn adnabod yr arwyddion ac yn gallu dweud sut hwyliau sydd arni drwy edrych yn ei llygaid, clywed tôn ei llais, a hyd yn oed trwy weld llun neu neges Facebook.
Mae Karen yn dweud bod ymyrraeth cynnar yn hanfodol i achub bywydau.
"Roedd fy mywyd yn llawn uchafbwyntiau ac isafbwyntiau."
Un arall sydd yn falch o fod yn fyw ar ôl ceisio hunanladdiad ydi'r cogydd Matt Guy.
Mae Matthew, o Ddeiniolen yn wreiddiol, wedi cael cryn dipyn o sylw yn y cyfryngau ar ôl gwneud enw iddo ei hun fel cogydd.
Dywedodd ei fod yn dipyn o loner yn yr ysgol, yr unig fachgen yn ei ddosbarth i ddewis gwersi coginio. Fe gafodd ei fwlio, ac mae'n cofio ar ei ddiwrnod olaf aros tu mewn amser cinio tra bod pawb o'i flwyddyn tu allan yn arwyddo crysau ei gilydd a dywedodd un o'r bwlis wrtho "lwcus bo' chdi heb ddod allan neu 'sa chdi 'di cael stîd".
Roedd Matthew yn falch o adael yr ysgol a gweithiodd yn galed i brofi ei hun. Enillodd gystadleuaeth cogydd ifanc y flwyddyn pan yn 16 oed, ac fe aeth i weithio mewn gwesty yn Jersey yn 19 oed.
Yn 2012 ymddangosodd ar gyfres MasterChef The Professionals. Gregg Wallace ddechreuodd ei alw yn Matt, ac roedd 'Matt' fel persona newydd i Matthew yr hogyn dihyder guddio tu ôl iddo.
Wrth gystadlu ar MasterChef, sylwodd Matthew fymryn o psoriasis ar ei groen, cyflwr sy'n gallu bod yn un o sgil effeithiau straen.
Yn 2015, ymddangosodd Matt ar y teledu eto gan ennill cystadleuaeth Chefs on Trial gydag Alex Polizzi. Swydd fel prif gogydd mewn bwyty yn Swydd Caerloyw oedd y wobr.
Roedd Matthew wedi gwirioni ennill Chefs On Trial ond nid oedd y wobr yn swydd ddelfrydol iddo fo; roedd yn casáu'r swydd a gwaethygodd y psoriasis nes bod rhaid iddo gael meddyginiaeth steroids a gorchuddio'i groen.
Roedd yn teimlo'n unig ac wedi ei ynysu oddi wrth ei deulu a ffrindiau. Roedd o dan gwmwl ond anodd oedd cyfaddef a gofyn am help. "Mae'n gymhleth," meddai. "Roeddwn i'n teimlo cywilydd, teimlo'n fethiant."
Dywedodd Matthew fod ei brofiadau wedi bod fel rollercoaster. Mae'r disgwyliadau mewn cegin broffesiynol a chystadleuaeth deledu yn uchel, pawb yn chwilio am berffeithrwydd dro ar ôl tro. Gweithio o dan bwysau, a'r adrenalin yn llifo.
Daeth yr isafbwynt mawr i Matthew un noson pan gafodd ei arestio am yfed a gyrru wedi i'w gar gael ei ddarganfod ben i waered mewn ffos. Ni gyfaddefodd Matthew ar y pryd, ond y ddamwain car yn oriau man y bore wnaeth achub ei fywyd, achos roedd ar ei ffordd i le penodol gyda'r bwriad o ladd ei hun.
Wedi'r digwyddiad, daeth adref i Ddeiniolen at ei rieni. Roedd o mewn dyfnderoedd tywyll, yn ofn siarad am ei deimladau rhag poeni ei rieni a methodd adael y tŷ am dri mis.
Ond diolch i gefnogaeth ei rieni ac wedi iddo, o'r diwedd, siarad ac agor allan i'w feddyg fe ddaeth pethe'n well.
"Mae colli rhywun i hunanladdiad yn waeth na dim," meddai Arwel Pugh. "Mae'n gadael gymaint o gwestiynau heb eu hateb."
Mae Arwel yn derbyn na chaiff o byth atebion ac mae o'n benderfynol o godi ymwybyddiaeth am salwch meddwl ac atal hunanladdiad, chwalu'r stigma a chael pobl i siarad.
Mae o wedi sicrhau bod rhywfaint o'r miloedd sydd wedi ei godi tuag at elusen er cof am Gavin wedi mynd i dalu am hyfforddiant iechyd meddwl i staff ysgolion cynradd.
Mae Karen wedi dysgu gwerth gofyn am help ac mae hi'n annog unrhyw un sydd yn teimlo yn isel i siarad ac yn erfyn ar bobl i wrando, i beidio gweld bai ac i fod yn garedig. "Gofynnwch am help, dio'm yn hawdd ond fydd o werth o."
Erbyn hyn mae byd Karen wedi newid, mae'r bipolar o dan reolaeth, mae hi wedi dychwelyd i weithio gyda chwmni sy'n darparu gofal cymdeithasol i oedolion ac yn canmol cefnogaeth ei chyflogwr.
Mae ei theulu a ffrindiau yn deall ac mae hi mewn perthynas hapus ac yn disgwyl ei babi cyntaf mis Chwefror nesa'.
"Dydy bywyd byth yn berffaith ond mae bywyd yn werth ei fyw," meddai Matthew Guy sydd bellach yn 33, wedi dyweddïo ac yn byw a gweithio yn ardal Nottingham. Yn ystod y lockdown, daeth yn dad am y tro cyntaf i fabi bach o'r enw Osian.
"Paid â lladd dy hun i fod yn berffaith, bydd y gorau fedri di. Mae 'na help ar gael, ac mae 'na obaith."
Hefyd o ddiddordeb: