Sut all sgiliau rygbi helpu i 'drawsnewid bywydau'?
- Cyhoeddwyd
Rhaglen elusennol yw'r School of Hard Knocks ar gyfer oedolion a phlant. Un nod sy' gan yr elusen, sef 'grymuso pobl i gyflawni beth bynnag maen nhw'n gosod eu meddwl iddo', drwy ddysgu sgiliau rygbi i blant ac oedolion.
Mae Hannah Brier yn wreiddiol o Gastell Nedd yn gweithio fel Cynorthwyydd Seicolegol i'r elusen.
Bu Cymru Fyw'n sgwrsio gyda Hannah, i wybod sut yn union mae sgiliau rygbi yn helpu trawsnewid bywydau.
Datblygu fel person
Eglurodd hi fod yr elusen yn helpu gyda iechyd meddwl a gyrfaoedd yr unigolion, drwy gael sesiynau cwnsela a chymorth ymarferol, fel help gyda'u CV.
Mae dysgu sgiliau rygbi i'r unigolion wedyn yn eu helpu gyda nodweddion fel hyder, cydweithio, dygymod â cholli a pharch, meddai Hannah.
"Mae'r rhaglen i unrhyw un ac yn para' wyth wythnos i gyd. Maen nhw'n dod mewn dwywaith yr wythnos am y cyfnod ac yn gwneud sesiwn gweithdy fel theori yn y bore a chwarae rygbi yn y prynhawn.
"Yn ddiweddar, mae rhan fwyaf o'r bobl sydd wedi bod yn cymryd rhan wedi cael eu cyfeirio gan Ganolfannau Gwaith, oherwydd y pandemig. Ond ni'n cael pobl sydd yn treulio amser yn y carchar a hefyd pobl sydd yn feddyliol fregus."
Newid bywydau
Cyn-filwr
Daeth un dyn ar y cwrs diweddaraf o'r fyddin. Roedd e'n dioddef o broblemau iechyd meddwl, yn benodol symptomau PTSD a flashbacks. Roedd e mewn perygl ac angen cymorth, meddai Hannah.
"Dwi'n cofio fe yn wythnos un, doedd dim hyder gyda fe, dim byd o gwbl.
"Doedd e ddim am ystyried mynd ar y cae rygbi. Doedd dim siawns am hynny. Doedd e byth wedi dal pêl rygbi, byth wedi gwisgo boots.
"Ei brif ffocws e oedd cael cymorth iechyd meddwl a magu hyder. Credwch neu beidio ond roedd e'n aros am 20 mlynedd am gymorth. Fi oedd y person cyntaf roedd e wedi siarad gydag am ei broblemau.
"Nawr, mae cofio sut oedd e i gymharu gyda diwedd y cwrs yn anhygoel.
"Roedd e'n dweud 'ti wedi arbed fy mywyd! Chi wedi bod yn anhygoel i fi.'"
Dangosodd i Hannah ei fod wedi cael tatŵ 'School of Hard Knocks' ar ei fraich. Eglurodd, "Dyma faint mae'r rhaglen yma yn golygu i fi, mae wedi trawsnewid fy mywyd."
Chwaraeodd yng ngêm olaf y rhaglen ac er ei fod yn 55 mlwydd oed, nid oedd am ddal nôl. Ar ddiwedd y gêm, â'r cyn-filwr wedi gorffen y rhaglen, daeth ei fab draw at y staff i ddiolch iddyn nhw.
Dywedodd, "'Diolch am roi fy nhad 'nôl i fi,'" eglura Hannah. "Mae straeon ac enghreifftiau fel hyn yn gwneud i mi sylwi'r gwahaniaeth rydw i, a gweddill staff yr elusen yn gwneud i bobl fel fe."
Carcharor
Bu'r elusen o gymorth i ddyn oedd gyda thri mis ar ôl yn y carchar hefyd.
Eglura Hannah: "Roedd angen rhoi ffocws i'r unigolyn, i geisio osgoi fe yn aildroseddu.
"Unwaith gamodd e ar y cae yn y sesiwn gyntaf, dangosodd e dalent naturiol. Doedd yr unigolyn yma erioed wedi dal pêl o'r blaen, byth erioed wedi chwarae rygbi!
"Gan fod rygbi'n rhan fawr o'r rhaglen, fe ddaeth dyn o Undeb Rygbi Cymru i arolygu'r sesiwn a chynnig unrhyw gymorth gyda chymwysterau hyfforddiant i'n hyfforddwyr - ac o fewn dim, fe gafodd e gynnig i wneud prentisiaeth gydag Undeb Rygbi Cymru tra bod e yn gwneud diwedd ei ddedfryd.
"Mae'n rhyfedd y newid mewn cymeriad sydd yn digwydd yn y dynion yma. Ac mae'n rhoi teimlad cynnes iawn tu mewn i fi sydd yn gwneud fi deimlo'n falch a hapus bo' fi a'r tîm yn gwneud newid.
"Mae'r gwaith mae'r elusen yma yn ei wneud wir yn gwneud newid mawr i unigolion sydd wir angen help. I ddweud y gwir, ar ddiwedd bob wyth wythnos dwi'n gweld e'n anodd gweld nhw'n gadael gan fy mod i'n dod i 'nabod nhw mor dda."