Lefel diweithdra yn parhau i ostwng yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl sy'n ddi-waith yng Nghymru yn parhau i ostwng, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae'r data diweddaraf yn dangos y bu 56,000 o bobl yn ddi-waith yma rhwng Awst a Hydref eleni.
Mae hynny 9,000 yn llai na'r chwarter blaenorol, ac yn ostyngiad o 14,000 o'i gymharu â'r un adeg y llynedd.
Mae cyfradd ddiweithdra Cymru - 3.7% - hefyd yn is na'r DU yn ei chyfanrwydd (4.2%).
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd17 Awst 2021
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2021