Gwreiddiau'r Siart Amgen a chrisialu'r sîn

  • Cyhoeddwyd
Rhys Mwyn
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y Siart Amgen cyntaf ei ddarlledu nôl yn 2016

Nos Lun darlledwyd Siart Amgen BBC Radio Cymru 2021 ar raglen Recordiau Rhys Mwyn.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn fawr a thrist ar adegau i'r sîn 'amgen' yng Nghymru, wrth weld bandiau ifanc yn datblygu a cholli mawrion fel David R. Edwards o'r band Datblygu.

Ond, beth yn union yw'r Siart Amgen? A pham fod y siart wedi dod i fodolaeth yn 2016? Rhys Mwyn sy'n egluro ac yn adlewyrchu ar Siart Amgen 2021.

Gwrandewch ar Siart Amgen 2021 ar raglen Recordiau Rhys Mwyn

Rhaid cyfaddef nad yw'r syniad am y Siart Amgen yn wreiddiol o gwbl, yr ysbrydoliaeth oedd y siart Festive 50 oedd yn cael ei ddarlledu yn flynyddol ar raglen John Peel ar Radio 1.

Wrth i ni sefydlu'r sioe nos Lun ar Radio Cymru yn ôl yn 2016 gyda chyfarwyddyd i ganolbwyntio ar yr 'amgen', yr 80au a'r 90au fel cyfnod craidd a gan gadw'r sioe yn weddol edgy, y teimlad oedd y byddai rhyw addasiad o'r Festive 50 yn gweithio yn dda i ni.

Yn amlwg mae elfen gryf o hwyl ynghlwm â'r holl beth - hynny yw drwy wahodd y gwrandawyr/ffans i ddewis neu enwebu traciau roedd modd creu bwrlwm a thrafodaeth am yr artistiaid a'r traciau oedd yn cael eu chwarae ar nos Lun.

Mae bwrlwm yn creu bwrlwm. Mae mynegi barn am Ganu Pop Cymraeg yn rhan o'r bwrlwm hwnnw ac ein gobaith ni fel sioe wrth sefydlu'r Siart oedd (ac yw) y byddai hyn yn cynyddu'r ymdeimlad o Gymuned Nos Lun.

Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd yr holl artistiaid yma i gyrraedd y siart eleni, (o'r top chwith) Breichiau Hir, David R. Edwards o'r band Datblygu, MR, Ysgwydd Wrth Ysgwydd, Sywel Nyw a Lauren Connelly, Papur Wal.

Efallai fod gweld Anwybyddwch Ni gan Y Cyrff yn cyrraedd y brig a thair cân gan Datblygu yn y 10 Uchaf yn 2016 yn ddisgwyliedig.

Mewn un ffordd roedd hyn yn cadarnhau pwysigrwydd yr artistiaid arloesol yma i'n gwrandawyr. Ond daeth tro ar fyd yn 2017 a 2018 gydag Adwaith yn cyrraedd Rhif Un ddwy flynedd yn olynol.

Roedd hyn yn hynod bositif, fod artistiaid newydd yn disodli'r 'hen stejars' amlwg - a'n bod ni fel sioe yn gweld nad yw'r holl beth yn sefyll yn ei unfan. Dim ond hyn a hyn fedrith rhywun odro ar y fuwch nostalgia.

Artistiaid newydd

Wedyn cafwyd Y Sybs yn 2019 a llynedd Papur Wal yn cyrraedd Rhif Un, ac fel yn achos Adwaith, roedd y pedwar grŵp yn rhan o stabl label Libertino sydd unwaith eto yn adlewyrchiad weddol deg o pwy sydd yn creu bwrlwm yn y sîn amgen yng Nghymru.

Rhywbeth arall amlwg gyda'r 10 Uchaf yn 2020 oedd fod artistiaid newydd/cyfredol bellach yn llenwi'r safleoedd uchaf a gwelwyd traciau gan Y Dail, 3 Hwr Doeth, Y Sybs, Ani Glass a Parisa Fouladi yn cael enwebiadau sylweddol.

Dwi'n credu y byddwn yn hynod siomedig petae ni ddim yn gweld y mwyafrif o'r traciau yn y 10 Uchaf yn rhai newydd neu gyfredol.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Eadyth ac Izzy yn rhif 10 yn y siart eleni gyda Dyma Ni

O fynd yn ôl at wraidd y Siart Amgen, yr hyn sydd dan sylw go iawn yw cerddoriaeth dda, o safon, efallai yn arloesol, ond cerddoriaeth sydd gydag angerdd a hygrededd.

Cerddoriaeth ac artistiaid sydd yn bwysig i'w ffans a dilynwyr. Cerddoriaeth a chaneuon sydd yn newid neu achub bywydau. Caneuon sy'n rhoi nerth a chysur a rhoi gwên ar wyneb. Nid yr arddull neu'r genre sydd yn cael y flaenoriaeth. Welais i 'rioed ddisgrifiad mor abstract ag 'amgen'.

Fel tîm cynhyrchu y sioe, mae'n bleser darlledu rhaglen Siart Amgen yn flynyddol sydd yn cael ei lwyr benderfynu gan y gwrandawyr.

Tydi rhywun byth yn gwybod pwy fydd yn y 10 Uchaf ar ddechrau pob blwyddyn. Mae cymaint yn gallu digwydd yn y cyfamser.

Unwaith eto mae'r 10 Uchaf wedi dangos fod pethau yn parhau i symud ymlaen.

10 Uchaf 2021

10. EADYTH AC IZZY - Dyma Ni

9. PASTA HULL - Death Caeath-Row

8. DATBLYGU - Am

7. MR - Stryglo

6. BREICHIAU HIR - Beth Bynnag Sydd Ar Ôl

5. SYWEL NYW + LAUREN CONNELLY - 10/10

4. EFA SUPERTRAMP + CERYS HAFANA + NICK RONIN - Diflannu

3. PAPUR WAL - Llyn Llawenydd

2. ME AGAINST MISERY - Ysgwydd wrth Ysgwydd

1. FFREDI BLINO - Dwwwi

Ffynhonnell y llun, Ffredi Blino
Disgrifiad o’r llun,

Ffredi Blino ddaeth i frig y siart eleni gyda'r gân Dwwwi

Gyda Breichiau Hir a Papur Wal yn ymddangos mae'n amlwg fod label Libertino yn llwyddo i ryddhau recordiau sy'n plesio'r dilynwyr.

Braf iawn gweld Ffredi Blino yn cyrraedd y brig, artist sydd newydd recordio sesiwn ar gyfer y sioe nos Lun ac artist sydd hefyd wedi cael cryn genfnogaeth gan Cerys Matthews ar ei sioe BBC 6Music.

Parhau mae'r parch tuag at Datblygu ac yn fwy felly eleni gan i ni golli David R. Edwards. Parhau hefyd mae'r parch enfawr tuag at Mark 'Cyrff' sydd yr un mor greadigol ag erioed. Heb os mae Stryglo yn un o hits mawr 2021.

Da hefyd gweld fod Pasta Hull yn chwifio'r faner Hip Hop a Me Against Misery yn gwneud rhywbeth tebyg gyda'r faner 'goth'.

Peth iach yw cael yr holl amrywiaeth yma yn y 10 Uchaf.

'Talent ryfeddol'

Efallai fod y gerddoriaeth mwyaf edgy a gwir 'amgen' yn dod gan Eadyth, Izzy, Efa Supertramp, Cerys Hafana a Lauren Connelly. Yn ddistaw bach a gyda gwên ddireidus dwi mor mor falch fod yr artistiaid yma yn y 10 Uchaf.

Fy ngobaith, os bydd y Siart yn parhau yn 2022, yw y gallwn ddatblygu pethau ymhellach ac efallai dod â'r holl raglenni gyda'r nos yn rhan ganolog o'r peth. Y gerddoriaeth sydd yn bwysig a'r gerddoriaeth sydd yn siarad!

Heb yr holl artistiaid anhygoel yma fyddai gen i ddim job - a dwi byth yn anghofio hynny. Braint yw cael dathlu'r talent ryfeddol sydd gennym yng Nghymru.

Pynciau cysylltiedig