Deuddydd i ysgolion Cymru baratoi wedi'r Nadolig
- Cyhoeddwyd
Bydd ysgolion Cymru yn cael deuddydd ar ddechrau'r tymor newydd i gynllunio ar gyfer dychweliad disgyblion a'r posibilrwydd o symud i ddysgu o bell.
Mae'n golygu y bydd disgyblion mewn rhai ysgolion yn dychwelyd i'r dosbarth yn hwyrach na'r disgwyl ar ôl gwyliau'r Nadolig.
Mae'r Gweinidog Addysg Jeremy Miles wedi galw ar benaethiaid i gynllunio i rai dosbarthiadau neu'r ysgolion cyfan symud ar-lein os oes pwysau staffio.
Ond mae'r cyhoeddiad wedi derbyn ymateb cymysg oddi wrth undebau addysg, gydag un yn cyhuddo'r llywodraeth o achosi "dryswch" i benaethiaid.
Daw wrth i gyngor arall yng ngogledd Cymru gyhoeddi y bydd disgyblion yn dysgu arlein ar ôl 17 Rhagfyr - wrth i Gyngor Conwy ymuno ag awdurdodau eraill sydd wedi gwneud yr un penderfyniad.
Absenoldeb staff
Dywedodd Mr Miles fod y cynllun yn cynnwys yn caniatáu dychwelyd ar adegau gwahanol ac yn cynghori mwy o brofion.
Mae undeb penaethiaid ysgolion ASCL wedi beirniadu'r penderfyniad yn chwyrn, gan ddweud ei fod wedi "taflu penaethiaid ledled Cymru i ddryswch".
Ond fe wnaeth undeb NAHT ddweud iddynt groesawu'r cyhoeddiad yn sgil pryder am lefelau staffio yn y flwyddyn newydd.
Daw wrth i athrawon sôn am eu pryder cynyddol am beth fydd effaith cyfraddau Covid ar ysgolion yn sgil yr amrywiolyn Omicron.
"Gofynnir i ysgolion ddefnyddio'r cyfle hwn i sicrhau bod cynlluniau cadarn mewn lle er mwyn symud i ddysgu o bell pe bai angen," meddai Mr Miles.
"[G]allai hyn fod ar gyfer dosbarthiadau/grwpiau blwyddyn unigol neu o bosib ar gyfer yr ysgol gyfan, gan ddibynnu ar bwysau ar gapasiti staffio," meddai Mr Miles.
Dylai ysgolion gynllunio ar gyfer senario 'risg uchel iawn', ychwanegodd.
Y cyngor bellach yw i staff a disgyblion wneud tri phrawf llif unffordd (LFT) yn ystod yr wythnos cyn mynd yn ôl i'r ysgol ym mis Ionawr ac yn wythnosol ar ôl hynny.
Bydd awdurdodau lleol yn trafod gydag ysgolion ynghylch pa ddyddiau fydd yn cael eu pennu fel rhai cynllunio ac INSET ar ddechrau'r tymor, gyda disgwyl y bydd pawb yn ôl yn y dosbarth erbyn 10 Ionawr fan hwyraf.
Yr ysgolion eu hunain fydd angen asesu pa staff fydd angen dod i mewn ar gyfer y dyddiau paratoi hynny, yn ogystal â'r ddarpariaeth fydd ei angen ar gyfer plant bregus a phlant gweithwyr allweddol.
Ychwanegodd Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i'r cyngor ar gyfer athrawon a disgyblion uwchradd i wisgo mygydau dan do pan nad oes modd cadw pellter cymdeithasol i fod yn ôl mewn grym ym mis Ionawr hefyd.
'Hollbwysig' cadw ysgolion ar agor
Dywedodd Laura Anne Jones AS y Ceidwadwyr Cymreig a'r Gweinidog Addysg Gysgodol ei fod yn "hollbwysig" cadw ysgolion ar agor.
"Mae'r ieuengaf yn ein cymdeithas wedi aberthu gymaint yn ystod y pandemig i amddiffyn eraill ar gost uchel iawn i'w cyfleoedd bywyd," meddai.
"Felly mae'n hollbwysig ein bod ni'n gwneud popeth i sicrhau bod ysgolion yn aros ar agor ar eu capasiti arferol.
"Mae yna bryderon cyfiawn am argaeledd y gweithlu os oes ton arwyddocaol yn bwrw'r wlad, a dyna pam y dylai blaenoriaeth ac egni'r llywodraeth fynd at weithredu'r rhaglen frechu atgyfnerthol cyn gynted â phosib."
Hollti barn yr undebau
Dywed Laura Doel, cyfarwyddwr undeb NAHT Cymru, ei bod yn croesawu'r newidiadau.
"Mae ysgolion wedi dioddef yn sylweddol oherwydd absenoldeb staff ers mis Medi," meddai.
"O gofio bod yr amrywiolyn newydd hyd yn oed yn fwy trosglwyddadwy, gallwn fod yn sicr y bydd Covid yn parhau i effeithio ar lefelau staffio."
Wrth ymateb yn ddiweddarach, dywedodd Mr Miles bod y llywodraeth yn ystyried opsiynau er mwyn lleihau "problemau staffio".
Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ceisio annog athrawon sydd wedi ymddeol i ddychwelyd er mwyn helpu.
Dywedodd Mr Miles bod Llywodraeth Cymru'n "archwilio'r holl bethau yna hefyd".
Ond dywedodd Eithne Hughes, cyfarwyddwr Cymru undeb penaethiaid ysgolion ASCL, bod angen gwell gan y llywodraeth.
"Rydyn ni wedi'n siomi fod Llywodraeth Cymru'n dal i deimlo ei fod yn addas i ddibynnu ar yr un fframwaith gwan o fesurau diogelwch Covid sydd wedi profi'n gwbl annigonol drwy gydol tymor yr hydref," meddai.
Dywedodd fod y penderfyniad hwn yn rhoi gormod o gyfrifoldeb ar benaethiaid lle bo angen arweiniad gan y llywodraeth.
"Mae gofyn i benaethiaid baratoi ar gyfer pob posibilrwydd o fewn deuddydd o gynllunio ar ddechrau'r tymor," meddai.
"Yn syml, nid yw hyn yn ddigon da ac mae angen eglurder llwyr a chanllawiau clir ar benaethiaid gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn sy'n rhaid i nhw ei wneud."
Dywedodd y byddai ysgolion yn croesawu'r cyngor ar orchuddion wyneb a'r caniatâd i gyflwyno oriau gwahanol i'r diwrnod ysgol.
Ond ni fydd y cyngor i ddisgyblion barhau i wneud profion llif unffordd tair gwaith yr wythnos yn effeithiol os nad Llywodraeth Cymru'n pwysleisio pwysigrwydd dilyn y cyngor hyn trwy ymgyrch iechyd cyhoeddus, ychwanegodd.
Dywedodd nad oes gan un blwyddyn ysgol yng Nghymru "bresenoldeb o dros 90%", a bod absenoldeb yn arbennig o wael ymysg disgyblion fydd yn sefyll arholiadau yn y flwyddyn newydd.
Bydd ysgolion yn bryderus iawn am fedru sicrhau bod yr arholiadau hyn yn deg i'r disgyblion ym mis Ionawr, meddai Ms Hughes.
Ychwanegodd fod angen i'r llywodraeth gynnig "y mesurau a'r sicrhad" sydd eu hangen ar ysgolion, yn enwedig gan fod "amrywiolyn Omicron o bosib yn gwaethygu'r sefyllfa".
Mae'r cyhoeddiad yn "gam cymesurol mewn sefyllfa sy'n symud mor gyflym" meddai Comisiynydd Plant Cymru.
Ychwanegodd Sally Holland y dylai "olygu bod plant a phobl ifanc yn dechrau'r tymor newydd gydag eglurder a bod yr amhariaeth ar eu dysgu a'u lles yn cael ei gyfyngu".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2021