Tlws FA Lloegr: Wrecsam 5-0 Gloucester City
- Cyhoeddwyd
Fe sgoriodd Jordan Davies ddwywaith wrth i Wrecsam guro Gloucester City yn hawdd a sicrhau lle ym mhedwaredd rownd Tlws FA Lloegr.
Fe allai'r ymwelwyr, sy'n agos at waelod Adran y Gogledd o'r Gynghrair Genedlaethol, fod wedi ildio'r gêm gan fod 10 o chwaraewyr yn hunan-ynysu dan reolau Covid-19.
Ond fe benderfynodd y clwb i fwrw ymlaen a theithio i'r Cae Ras, ble wnaeth goliau campus Davies, wedi 24 a 32 o funudau, amlygu mantais y Dreigiau.
Roedd y drydedd gôl, ergyd droed dde i do'r rhwyd gan Max Cleworth wedi 47 o funudau, hefyd yn un cofiadwy.
Sgoriodd Kwame Thomas (56) yn ei ymddangosiad cyntaf ers dychwelyd i'r 11 cychwynnol yn dilyn anaf naw mis yn ôl.
Fe seliodd James Jones y fuddugoliaeth wedi 72 o funudau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2021