Bywyd a gyrfa yr actores Siân Phillips

  • Cyhoeddwyd
hywel
Disgrifiad o’r llun,

Hywel Gwynfryn a Siân Phillips ar ddiwrnod y cyfweliad

Siân Phillips yw un o prif actorion Cymru ac mae ei gyrfa ar lwyfan a sgrîn yn ymestyn 70 o flynyddoedd.

Yn ferch fferm o ardal Gwauncaegurwen, Sir Gaerfyrddin, fe wnaeth enw i'w hun yn rhyngwladol drwy actio mewn ffilmiau fel Becket (1964), Goodbye, Mr. Chips (1969), Murphy's Law (1971) a House of America (1997), yn ogystal â sawl cyfres deledu llwyddiannus.

Mewn rhaglen arbennig ar BBC Radio Cymru ar Ddydd Nadolig mae Siân Phillips yn sgwrsio â Hywel Gwynfryn am ei bywyd a'i gyrfa. Ar hyn o bryd mae Siân yn ymddangos mewn drama yn y Theatr Frenhinol yng Nghaerfaddon, ac yno y bu hi'n sgwrsio gyda Hywel Gwynfryn.

Actio ar lwyfan

Wrth gofio nôl am ddyddiau cynnar ei gyrfa mae Siân yn cofio actio o dan arweiniad y dramodydd enwog, Samuel Beckett.

"O'n i mewn drama yn y West End yn y 1960au ac fe ddaeth yr alwad i mi gwrdd â Samuel Beckett er mwyn gwneud y ddrama Eh Joe. Jackie MacGowran odd yn chwarae rhan y gŵr a oedd gyda fy llais i yn ei ben yn hala fe'n hurt.

"Felly, sut ddyn oedd Beckett? "Roedd e'n edrych yn wonderful, rodd e'n gwisgo dillad terrific, odd o'n neis iawn, ond odd e'n galed - yn eistedd o flaen y llwyfan yn edrych ac yn pwyntio'i fys."

Disgrifiad o’r llun,

Siân Phillips yn ymarfer ar gyfer y ddrama Brad (1958), gyda Richard Burton ar ei hysgwydd

Actio ar lwyfan oedd sut y dechreuodd Siân ei gyrfa, ac mae yn dal yn mwynhau'r wefr o actio o flaen cynulleidfa byw.

"Mae rhaid gweithio drwy'r amser - chi'n mynd yn ofnus os nad ydych chi'n ymddangos ar y llwyfan. Oherwydd Covid doedd neb wedi bod yn y theatr am peth amser, ac felly pan aethon ni nôl doedd ddim ofn arno ni ond roedd y muscle wedi mynd yn slac - roedd rhaid dod i arfer eto."

Fel pawb arall fe ddaeth y cyfnod clo yn sgil pandemig Covid-19 fel dipyn o newid byd i Siân, ond mae hi'n dweud iddi fwynhau agweddau ohono.

"O'n i'n teimlo bod bywyd wedi arafu ac o'n i'n gallu ymlacio. O'n i'n cerdded bob dydd yn Llundain, ac roedd e'n hyfryd gyda'r tywydd yn braf. Wrth gwrs fe roedd rhai bobl yn cael amser ofnadwy, ond o'n i'n lwcus. Fe adeilades i stiwdio fach yn fy study i yn fy fflat i yn Llundain."

Plentyndod Cymreig

"Roedd rhan fwya' o'm mhlentyndod i yn y Waun (Gwauncaegurwen), ac yna yn yr Allt Wen - doedd ddim un pentre' yn bell o'r nesa yn yr ardal. Ges i fy ngeni ar y fferm, ac fe gath mam ei geni yn yr un ystafell ac fy mam-gu ei geni yn yr un ystafell- roedd e'n hen fferm yn y teulu.

"O'n i'n dost drwy'r rhan fwya' o'n mhlentyndod, ac felly'n cael dy nala nol yn y fferm i wella. Gwariais i lawer o amser ar ben fy hunan, a rwy'n unig blentyn hefyd - o'n i mas yn cerdded, yn darllen, yn 'whare, yn cael amser braf."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Siân Phillips yn 1978

"Roedd fy nhad yn gerddor i ddechre, a gorfod fe fynd nôl i Lanelli at ei dad a oedd yn sâl gyda silicosis. Yna fe aeth fy nhad i weithio yn y gweithfeydd dur yn Llanelli i edrych ar ôl gweddill y teulu. Ond roedd fy nhad yn y côr ac yn cael gwersi piano gan ei frawd a oedd yn organydd."

Roedd teulu yn agwedd bwysig o fywyd cynnar Siân ac meddai bod ei mam wedi bod yn hynod ddylanwadol. Ond doedd ei mam ddim am iddi fynd i actio, gan ei hannog i chwilio am swydd wahanol.

"Dwi ddim yn deall pam odd hi'n dysgu fi adrodd ond dim mynd 'mlaen i gael gyrfa'n actio. Dwi'n meddwl oedd hi'n deall pa mor anodd fydde pethe - roedd e'n annioddefol o galed.

"Roedden nhw i gyd (y teulu) yn eitha' nerfus drosta'i, ond o'n i'n gwybod y bydde fi'n iawn. Nes i sgwennu mewn llyfr pan o'n i'n chwe mlwydd oed 'dwi am fod yn actores', a newidies i ddim fy meddwl wedi hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Gyda Richard Burton mewn golygfa yn y ffilm Becket

Tra yn Ysgol Ramadeg Pontardawe, athro Cymraeg Siân oedd Eic Davies, tad y darlledwr Huw Llywelyn Davies. Cafodd Eic Davies ddylanwad mawr ar Siân Phillips, gan ddylanwadu ar ei Chymraeg ac hyd yn oed ei henw perfformio.

"Wedodd e 'ma rhaid i chi newid eich enw nawr, ma Jane yn enw Saesneg - Siân. Do'dd neb yn galw plant yn Siân y pryd hynny, doedd e ddim yn ffasiynol."

Cystadlu mewn Eisteddfodau

Daeth doniau Siân i'r amlwg wrth iddi gystadlu yn yr eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Ond daeth y llwyddiant ddim dros nos.

"Roedd ffordd Mam o ddysgu yn od i bawb arall, ac ar y dechrau doeddwn i ddim yn llwyddiannus o gwbl. Roedd hi'n licio bod pethe yn bod yn dawel ac yn rhesymol, ac roedd lot o actio'n mynd mlaen - roedd hi'n dweud 'peidiwch a gwneud hynna'.

"Ac yna fe dechreues i fod yn llwyddiannus ac o'n i'n cystadlu rhywle bob dydd Sadwrn - y cwestiwn mawr oedd y Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd Mair Rees a fi yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandybie, honna oedd yr un cyntaf."

Disgrifiad,

Sian Phillips yn darllen Baled Y Pedwar Brenin gan Cynan

Yn dilyn ei llwyddiant yn yr Eisteddfodau fe gychwynnodd Siân weithio yn y BBC pan oedd hi'n 12-13 oed, gan wneud ei gwaith ysgol yn ystod ei awr ginio. Aeth Siân 'mlaen i'r coleg yng Nghaerdydd, ond dywed Siân ei bod yn casáu prifddinas Cymru pan symudodd yno yn gyntaf.

"Roedd e'n dref, y rhewlydd a'r bysus, y bobl a'r sŵn - o'n i heb glywed y fath beth erioed."

Yfed gwin gyda Saunders Lewis

Moment fawr ym mywyd Siân Phillips oedd pan wnaeth hi gyfarfod â Saunders Lewis. Roedd Siân yn ymarfer ar gyfer drama Saunders Lewis, Gymerwch Chi Sigaret? ar y pryd.

"Dwi'n cofio fe'n dod i'r rehersals. Roedd e mor fach - yn ddyn bach, bach, gyda phen mawr. O'n i'n dwlu ar y ddrama ac felly 'nes i gwrdd â fe. Dechreuodd e ail-sgrifennu pethe i fi ac egluro pethe, a daethon ni'n ffrindiau - roedd e'n ddoniol iawn ac yn lylfi.

"Odd e'n mynd a fi mas am gino ac odden ni o hyd yn mynd i 'run lle bob tro - ar y pier yn Tiger Bay, a oedd yn ardal beryglus yr adeg hynny. Dyna lle wnes i flasu gwin am y tro cyntaf."

RADA a Llundain

Cafodd Siân ysgoloriaeth i astudio drama yn RADA ac felly fe symudodd i Lundain, ble roedd hi wrth ei bodd.

"O'n i'n dwlu ar RADA. O'n i'n meddwl y byddwn i'n anhapus yn Llundain ond fe roedd rhaid imi fynd yno, ac fe syrthies i mewn cariad gyda'r lle pan o'n i'n byw yn Paddington."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Siân yn siarad gyda'r actores a model Capucine ar set y ffilm What's New Pussycat? yn Paris, 1965

Tra'n astudio yn RADA fe gafodd Siân y cyfle i fod yn wyneb i hysbysebu'r cwmni colur Revlon, ac fe gafodd cynigion am gytundebau hirdymor i wneud ffilmiau yn Hollywood. Ond gwrthod y bu rhaid iddi, am fod disgwyliad iddi actio mewn dramâu ar lwyfan wedi iddi gwblhau ei chyfnod yn RADA.

Peter O'Toole

Mae Siân wedi priodi deirgwaith, ond mae'n debyg mai ei phriodas gyda'r actor Gwyddelig, Peter O'Toole oedd yr un gafodd y mwyaf o sylw. Roed hi'n briod ag O'Toole am ugain mlynedd, rhwng 1959 ac 1979, ac fe gafodd y ddau ddwy o ferched, Kate a Patricia.

"O'n i wedi clywed lot amdano fe, ond roedd e wedi gadael RADA cyn i mi gyrraedd 'na. Roedd e wedi mynd i'r Old Vic ym Mryste a dod yn enwog iawn yn chwarae Jimmy Porter (yn y ddrama Look Back in Anger) a Hamlet ac ati.

"Daeth e lan i Lundain un penwythnos, ac o'n i mas i ginio gyda cwpl o ffrindie, ac odd un o nhw'n ei 'nabod e. Nes i gwrdd ag e ar y pafin a meddwl i fi'n hun 'nai briodi fe rhywbryd'. Feddylies i ddim amdano fe wedyn tan i ni gwrdd eto, ac fe briodon ni. Roedd e'n briodas anodd ar brydie, ond hefyd yn iawn ar brydie."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gyda Peter O'Toole ym mis Mawrth, 1964

Er yr amseroedd anodd, mae hi dal yn amddiffynnol o Peter O'Toole.

"Dyna sut oedd y byd yr adeg yna, roedd rhaid i ferched 'fihafio' a bod gartref. Roedd popeth o'i ochr e, dim o'n ochr hi. Roedd fy mam yn dweud wrtha'i beidio priodi, ei fod ddim yn siwtio fy mhersonoliaeth i. Roedd e'n beth od iddi ddweud, doedd hi ddim yn rhoi cyngor imi fel arfer."

Roedd Siân Phillips yn briod â O'Toole tra gafodd y ffilm epig, Lawrence of Arabia ei ryddhau. "Roedd y byd yn agor lan i rywun fel'na, roedd e mor ddiddorol."

Uchafbwyntiau gyrfa

Mae Siân wedi chwarae rhannau mawr ar lwyfan, teledu a ffilm, ond beth mae hi'n fwyaf balch ohono?

"Un o'r pethau o'n i'n mwynhau yn ofnadwy oedd pan nes i ddechrau musical theatre pan o'n i'n 40 oed - o'n i'n hen i fod yn dechre canu a dawnsio."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar set y ffilm Murphy's War, 1971

"Gorfod fi ddysgu disgyblaeth newydd ac fe ddechreuodd hynny fywyd newydd i mi. Rwy 'di gwneud wyth musical yn y West End a chael gyrfa o 15 mlynedd yn gwneud Cabaret hefyd, sydd wedi bod yn ddiddorol ofnadwy."

Mae rhai o'r gred bod hi'n anodd dyddiau 'ma i actorion hŷn gael rhannau da, a bod Hollywood yn enwedig yn eu hanwybyddu ac yn hytrach rhoi sylw i actorion iau.

Ond mae Siân yn grediniol bod hi'n bosib llwyddo beth bynnag yw oed yr actor.

"Dyw e ddim yn anodd i ddweud y gwir - os y'ch chi'n fodlon chwarae eich oedran. Os y'ch chi'n trio am rannau iau na'ch oedran, mae'n siŵr bod e'n anodd.

Ffynhonnell y llun, Robbie Jack
Disgrifiad o’r llun,

Yn chwarae rhan Lady Bracknell yn nrama Oscar Wilde, The Importance Of Being Earnest, yn yr Harold Pinter Theatre, Llundain

"Mae actio'n wahanol i bawb, ac mae wedi bod felly erioed.

"Mae rhai bobl yn dweud ei fod yn anoddach nawr...os chi heb fod i ysgol fonedd, os ydych chi wedi bod i ysgol fonedd, os y'ch chi'n ddu, yn wyn... Mae'r anawsterau yn ddi-ri, ac mae wedi bod fel 'na erioed."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dune wedi bod yn un o ffilmiau mwyaf 2021, ond fe roedd Siân yn fersiwn gwreiddiol y ffilm yn 1984, gyda David Lynch yn cyfarwyddo

Dod nôl i Gymru

Mae Siân yn datgan ei bod yn hynod o falch o'i chefndir, ac yn arddel ei Chymreictod lle bynnag y mai.

"Dwi ddim yn cael gymaint o gyfle i fynd adre a hoffen ni, ond rwy'n dwlu mynd adre' a meddwl am fy mhlentyndod yng ngorllewin Cymru - o'n i mor hapus yno."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig