'Dirwy £60 am beidio gweithio o adref yn ergyd i'r tlotaf'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gweithio o adrefFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae undebau yn "pryderu'n fawr" y gallai pobl wynebu dirwy am beidio gweithio o adref dros y gaeaf.

Ers dydd Llun, gallai unrhyw un sy'n mynd i'r gwaith pan nad oes angen wynebu dirwy o £60 yn ôl Llywodraeth Cymru.

Ond mae undeb GMB a chynghres undebau TUC Cymru wedi codi pryderon y bydd y mesurau yn effeithio ar y "bobl dlotaf a mwyaf bregus".

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod angen cyflwyno cyfyngiadau ychwanegol i atal lledaeniad y feirws.

Mae disgwyl i aelodau'r Senedd gael eu galw yn ôl i gyfarfod rhithiol ddydd Mercher yn ystod eu seibiant dros y Nadolig wrth i'r Llywodraeth ystyried cyfyngiadau pellach eto.

Yn ôl undeb GMB, mae pryder y bydd cyflogwyr yn "debygol o ecsbloetio'r rheol i warchod eu hunain rhag dirwyon trwy roi'r cyfrifoldeb ar weithwyr".

Ychwanegodd bod pryderon pellach am unigolion yn cael eu gorfodi i weithio o adref er gwaethaf sefyllfaoedd personol sy'n gwneud hynny'n anodd.

Bydd hyn yn ei dro'n "taro'r bobl dlotaf a mwyaf bregus" yn ôl yr undeb.

'Dirwy dros y Nadolig yn cael effaith ariannol ddifrifol'

Dywedodd Kelly Andrews, uwch drefnydd GMB: "Mae hyn yn taro tant anghywir.

"Mae gennym bryderon enfawr y gallai hyn arwain at gyflogwyr gwael yn rhoi pwysau ar eu gweithwyr i weithio o adref heb waith papur, gan roi risg ariannol arnynt.

"Y gweithwyr rheiny yw'r rhai mwyaf bregus sy'n methu fforddio'r ergyd ariannol fwyaf.

"Y gwir yw, ar gyfer nifer o deuluoedd, bydd dirwy o £60 dros y Nadolig yn cael effaith ariannol ddifrifol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae angen cyflwyno mesurau gweithio o adref er mwyn atal lledaeniad coronafeirws

Dywedodd undeb TUC Cymru ei fod "mewn sioc ac yn pryderu" am y penderfyniad i ddirwyo gweithwyr.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj: "Nid gweithiwr sydd yn gyfrifol am eu gweithle, y cyflogwr sy'n gyfrifol am hynny.

"Mae hyn yn gosod cynsail pryderus iawn bod y cyfrifoldeb yn cael ei rannu rywsut, ac ar ei orau, yn naïf. Ry'n ni'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn diddymu hyn ar frys i waredu dirwyon ar weithwyr."

'Angen gwarchod iechyd y cyhoedd'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae rheoliadau pellach wedi eu cyflwyno i atal lledaeniad y feirws a gwarchod iechyd y cyhoedd.

"Yn ychwanegol i'n cyngor i bobl weithio o adref pan yn bosib, o ddydd Llun, bydd hi nawr yn ofyniad cyfreithiol i weithio o adref heblaw bod esgus rhesymol i beidio.

"Rydym yn disgwyl i bob cyflogwr gymryd camau rhesymol i hwyluso gweithio o adref a darparu gweithwyr gyda'r gefnogaeth sydd angen arnynt."

Ychwanegodd y Llywodraeth y gallai cyflogwyr wynebu dirwyon o hyd at £10,000 am beidio dilyn mesurau Covid-19.

Pynciau cysylltiedig