Gweithio o'r cartref yn 'uchelgais hirdymor'

  • Cyhoeddwyd
gweithoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr uchelgais yw gweld 30% o bobl yn gweithio o adref

Fe ddylai bron i draean o bobl fod yn gweithio o adref, hyd yn oed pan fod cyfyngiadau coronafeirws wedi cael eu llacio, medd Llywodraeth Cymru.

Dywed gweinidogion mai'r uchelgais yw gweld tua 30% o'r gweithlu yng Nghymru yn aros adre neu yn agos i'w cartrefi yn yr hir dymor.

Dadl y llywodraeth yw y gallai hyn leihau llygredd, a gwella ansawdd bywyd.

"Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU y dylai bawb fynd yn ôl i'r swyddfa, ddim yn neges rydym yn ei hailadrodd yng Nghymru," meddai dirprwy weinidog trafnidiaeth a'r economi, Lee Waters.

"Rydym o'r farn fod pobl am barhau i weithio o'u cartrefi yn yr hir dymor, a gallai hyn fod yn newid mawr yn y patrwm gwaith yng Nghymru i'r dyfodol."

Dywed Llywodraeth Cymru fod hyn yn gyfle i "ddysgu gwersi ar faterion fel cefnogaeth iechyd meddwl, trefniadau gofal plant a chynllunio tai a chartrefi mwy beiddgar."

Fel rhan o'r polisi, dywed swyddogion eu bod yn ymchwilio i weld sut mae datblygu rhwydwaith o "ganolfannau hwb" yn y gymuned.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cred gweinidogion y gallai gweithio o adref leihau lefelau llygredd

Byddai'r canolfannau yn cynnig safle tebyg i swyddfa ond fyddai o fewn pellter cerdded neu seiclo o'r cartref, ond yn cael eu rhannu gan gyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus.

Fe wnaeth adroddiad diweddar gan academyddion ym mhrifysgolion Caerdydd a Southampton awgrymu fod cynnyrch pobl sy'n gweithio o adre gystal, neu well, na'r rhai sy'n gweithio o swyddfeydd canolog.

Dywedodd Hannah Blythyn, is weinidog tai a llywodraeth leol: "Fe fydd gweithio o gartref yn newid y modd rydym yn defnyddio canol ein trefi a'r Stryd Fawr.

"Fel rhan o'n gwaith i gefnogi ac adfer canol trefi byddwn yn gofyn i fusnesu, sefydliadau ac unigolion i gyfrannu at astudiaeth sydd a'r bwriad o sicrhau fod mwy o bobl yn byw, gweithio, siopa ac astudio yno."