Newid i drefn gweithio fwy hyblyg yn debygol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Nifer o bobl yn cyfarfod arleinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl cwmni a sefydliad yn edrych ar gymysgedd o weithio o adref ac o'r swyddfa fel y ffordd ddelfrydol ymlaen wedi'r pandemig

Mae rhai o brif gyflogwyr Cymru'n ystyried parhau â'r drefn o weithio hyblyg pan fydd y pandemig drosodd.

Mae Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd a Grŵp Admiral yn ymgynghori gyda'u staff am y posibilrwydd o gyflwyno cymysgedd o weithio o'r cartref a gweithio o'r swyddfa.

Dywed arbenigwyr y bydd 'na wastad angen swyddfeydd - yn enwedig i'r rhai dibrofiad sydd ar gychwyn gyrfa - ond yn fwy na thebyg bydd swyddfeydd yn llai o faint yn y dyfodol ac yn caniatáu trefn mwy hyblyg o weithio.

Mae'r rhan fwyaf o staff cwmni yswiriant Admiral, sydd â'u pencadlys yng Nghaerdydd, yn gweithio o adref ar hyn o bryd, gyda nifer fechan yn eu swyddfeydd.

Yn ôl pennaeth personél y cwmni, Rhian Langham, roedd staff yn dweud y byddent yn hoffi cadw'r pethau gorau ynglŷn â gweithio o adref, tra'n cadw'r "diwylliant anhygoel" sydd ganddynt yn y gweithle.

'Diwylliant unigryw'

Dywedodd eu bod yn edrych ar gymysgedd o'r ddau beth, unwaith y byddai'n ddiogel i ailagor adeiladau'n fwy eang.

"Ein prif ystyriaethau yw ein hymrwymiad i wasanaeth cwsmeriaid gwych ac i sicrhau ein bod ni'n cadw ein diwylliant unigryw yn fyw ac yn iach, ac rydym yn credu y gallwn wneud y ddau beth gyda threfn gymysg o weithio."

Mae 350,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa wedi cael ei osod yng nghanol Caerdydd bob blwyddyn dros y 10 mlynedd diwethaf.

Yn 2020 roedd y ffigwr i lawr i 235,680 tr sg, ac roedd 120,000 tr sg o hwnnw wedi cael ei gymryd gan gwmni Legal and General mewn adeilad newydd yn Sgwâr Canolog y ddinas, sydd i fod i gael ei gwblhau erbyn Tachwedd 2022.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i adeilad newydd cwmni Legal and General agor ym mis Tachwedd 2022

Mae les pum-mlynedd Prifysgol Caerdydd ar Friary House, sy'n cynnwys swyddfeydd ac ystafelloedd darlithio, yn dod i ben eleni, ac nid yw'r brifysgol wedi dweud a fyddent yn ei adnewyddu ai peidio.

Ond dywedodd llefarydd fod sylwadau gan staff yn dangos y byddai nifer ohonynt yn hoffi cadw rhai o'r arferion gweithio y bu'n rhaid eu mabwysiadu oherwydd y pandemig, pan fydd hwnnw drosodd.

"Rydym hefyd yn edrych ar ôl troed carbon ein hystadau, yr allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â'n hadeiladau, ac ar deithio i'r gwaith," meddent.

"Trwy wneud hyn rydym yn gobeithio lleihau ôl troed carbon y brifysgol a wynebu her newid hinsawdd."

Dywed Llywodraeth Cymru ei fod yn awyddus i weithwyr gael mwy o hyblygrwydd er mwyn gallu gweithio o bell.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw'n hysbys eto a fydd Prifysgol Caerdydd yn adnewyddu eu les ar Friary House

Maent yn ystyried rhwydwaith o ganolfannau cymunedol o fewn pellter cerdded neu seiclo i gartrefi pobl, ac a fyddai'n gallu cael eu defnyddio gan weithwyr y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector.

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn ystyried dymchwel ei hen swyddfeydd yng Nglyn Ebwy a sefydlu canolfan gymunedol o'r fath yn hen swyddfa gwaith dur y dref.

Mae'n gyfle i newid eu ffordd o weithio, ac i leihau costau a'r effaith ar yr amgylchedd, meddent.

Mae disgwyl i'r cyngor drafod y syniad ddydd Iau.

Dosbarthiad tecach o swyddi

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod yn ymgynghori gyda staff a'r undebau ynglŷn â gweithio o adref yn y tymor hir, gyda dymuniad o gael hyd at 50% o staff yn gweithio o adref ar yr un pryd yn y dyfodol.

"Bydd caniatáu i staff weithio o bell yn gyfraniad allweddol i'n bwriad o leihau ein hôl troed carbon ac yn golygu dosbarthiad mwy teg o swyddi ar draws Cymru," meddai.

Yr wythnos hon dywedodd y cwmni olew BP wrth ei staff y bydd disgwyl iddynt weithio o adref am ddau ddiwrnod yr wythnos ar ôl i gyfyngiadau Covid gael eu codi.

'Marwolaeth y swyddfa?'

Dywedodd Dr Martin James, o Ysgol Rheolaeth Prifysgol Abertawe y gallai dirwasgiad wneud i fusnesau i ystyried gweithio o gartref fel modd o leihau costau.

Ond roedd yn rhy gynnar i gyhoeddi "marwolaeth y swyddfa", meddai, er bod ymchwil yn dangos bod cynhyrchiant wedi cynyddu gyda gweithio o gartref.

Ychwanegodd Dr James bod swyddi oedd yn cael eu cyflawni'n gyfan gwbl o bell, ac nad oedd angen "deinameg y swyddfa", mewn perygl o gael eu hallanoli.

"Mae lot o ymchwil a meddwl strategol yn mynd i fod yn digwydd oherwydd gall symudiadau gweddol fychan arwain at newidiadau dwfn," meddai.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae perygl i swyddi sy'n cael eu gwneud yn gyfan gwbl o bell gael eu hallanoli, meddai Dr Martin James o Brifysgol Abertawe

Pynciau cysylltiedig