Cyhuddo dyn o lofruddiaeth wedi i ddyn farw ar ôl tân
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 42 oed o Sir Fynwy wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth, yn dilyn marwolaeth dyn ym Magwyr, Sir Fynwy.
Y disgwyl yw y bydd yn mynd gerbron ynadon Casnewydd fore Gwener.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i barc carafanau The Beeches, Knollbury, am 02:30 fore Llun, 20 Rhagfyr wedi adroddiadau o dân yno.
Fe gafodd Richard Grenfell Thomas, 52, ei gludo i'r ysbyty am driniaeth, ond bu farw o'i anafiadau fore Llun.
'Byth eiliad ddiflas yn ei gwmni'
Rhoddodd deulu Mr Thomas deyrnged iddo gan ddweud: "Roedd ein hannwyl Richard, oedd yn cael ei adnabod wrth ei lys-enw Shrew, yn unigryw. Bydd colled enfawr ar ei ôl i'w deulu a ffrindiau lawer.
"Roedd Richard yn byw bywyd i'r eithaf - doedd byth eiliad ddiflas yn ei gwmni. Roedd yn gymeriad cryf, adnabyddus a bywiog, gyda chylch eang o ffrindiau a diddordebau.
"Cwsg yn dawel Richard... fe fyddi di'n ysbryd rhydd hyd yn oed mewn angau."
Dywedodd y Ditectif Prif Uwch-Arolygydd Nicky Brain, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Mae ein meddyliau a chydymdeimlad gyda theulu Mr Thomas yn y cyfnod anodd yma.
"Wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo, bydd nifer o blismyn yn weithgar yn yr ardal, a hoffwn ddiolch i'r trigolion lleol am eu cefnogaeth a chymorth hyd yma.
"Nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad."