Dim brechlynnau Covid ddydd Nadolig na San Steffan

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
"Rydym yn parhau i annog pobl yng Nghymru i dderbyn y cynnig o frechiad pan fyddant yn derbyn apwyntiad."Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth yn annog pobl i dderbyn y cynnig o frechiad pan fyddan nhw'n derbyn apwyntiad

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd modd cael unrhyw frechlyn Covid yng Nghymru ar Ddydd Nadolig na Dydd San Steffan.

Bydd y gwasanaeth yn ailddechrau ddydd Llun ond yn Lloegr bydd modd cael brechlynnau ar y ddau ddiwrnod.

Ar 26 Rhagfyr bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd dau sy'n golygu cyfyngiadau llymach er mwyn atal lledaeniad amrywiolyn Omicron.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai canolfannau brechu yn cau am fod byrddau iechyd yn "rhagweld y byddai derbyn apwyntiadau brechu yn isel iawn".

"Mae hyn hefyd yn golygu bod staff a gwirfoddolwyr canolfannau brechu, sy'n gweithio'n hynod o galed i gyflwyno'r rhaglen frechu yn gyflym, yn gallu cael gorffwys haeddiannol dros gyfnod yr ŵyl," meddai llefarydd.

Ond mae canolfannau profi yn parhau ar agor ledled Cymru dros yr Ŵyl.

Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfannau profi yn parhau ar agor ar Ddydd Nadolig a Dydd San Steffan

Mae nifer y cleifion ysbyty, yn ôl ffigyrau 22 Rhagfyr, wedi gostwng 20% ers bythefnos yn ôl, ac ar eu hisaf ers diwedd Awst.

Dywed Dr Helen Alefounder, meddyg teulu ym Mae Colwyn bod newyddion yr wythnos hon bod yr amrywiolyn yn wannach na rhai blaenorol yn "newyddion gwych".

Ond ychwanegodd: "Fel meddyg teulu mae bywyd yn brysur ar hyn o bryd gan fod y feirws yn drwm yn y gymuned.

"Yn amlwg ry'n am weld gostyngiad yn y niferoedd. Yn ffodus dyw pobl ddim mor sâl, fel mae tystiolaeth newydd yn dangos, ond mae Covid dal o gwmpas ac yn lledaenu."

Ar gyfartaledd mae cyfradd achosion Cymru yn is na chenhedloedd eraill y DU a Delta yw'r prif amrywiolyn ar hyn o bryd.

Ddydd Mawrth cafodd 50,524 o bobl eu brechu yng Nghymru - y nifer mwyaf mewn un diwrnod.

Y newidiadau yng Nghymru o 26 Rhagfyr:

  • Cadw pellter cymdeithasol o 2m mewn mannau cyhoeddus ble mae modd;

  • 'Rheol chwe pherson' yn dychwelyd i lefydd fel lletygarwch, sinemâu a theatrau;

  • Mesurau ychwanegol i dafarndai a bwytai, fel gwasanaeth bwrdd, mygydau, a chasglu manylion cyswllt;

  • Hyd at 30 yn cael cwrdd ar gyfer digwyddiadau dan do, a hyd at 50 y tu allan;

  • Clybiau nos i gau;

  • Rheolau ymbellhau cymdeithasol o ddwy fetr mewn gweithleoedd a siopau;

  • Bydd gemau chwaraeon broffesiynol yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig - ond caiff hyd at 50 o bobl fynd i wylio gemau cymunedol, a bydd eithriad ar gyfer chwaraeon plant.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd llefarydd Ceidwadwyr Cymru yn y Senedd, Russell George AS: "Nid yw cyfyngu ar frechiadau atgyfnerthu ar Ddydd San Steffan yn gwneud synnwyr, ac fe fydd yn achosi penbleth i deuluoedd a busnesau ar draws Cymru.

"Fe fyddai pobl Cymru wedi camu ymlaen gan eu bod yn gwerthfawrogi ein bod mewn ras yn erbyn Omicron, ond mae'n ymddangos nad yw gweinidogion Llafur yn rhannu'r meddylfryd yna nawr eu bod wedi gosod cyfyngiadau eraill.

"Ry'n ni'n gwybod mai brechu, nid cyfyngu, fydd yn trechu'r pandemig... ac fe ddylai hynny fod yn flaenoriaeth i'r llywodraeth Lafur - hyd yn oed ar Ddydd San Steffan."