Corwen: Dyn wedi'i anafu'n ddifrifol wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
A494 Bryn Saith MarchogFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r A494 toc cyn 15:00 ddydd Iau

Mae gan ddyn 18 oed anafiadau sy'n bygwth ei fywyd yn dilyn gwrthdrawiad ger Corwen brynhawn dydd Iau.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru iddyn nhw gael eu galw i'r A494 ger Bryn Saith Marchog yn dilyn adrodd o wrthdrawiad rhwng dau gar toc cyn 15:00.

Yn ôl yr adroddiad, Audi A3 coch a Vauxhall Astra llwyd oedd y ceir.

Cafodd gyrrwr yr Audi ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Aintree yn Lerpwl, ond mae bellach wedi ei gymryd i Walton gydag anafiadau sy'n bygwth ei fywyd.

Cafodd gyrrwr yr Astra - dyn 21 oed - ei arestio yn y fan a'r lle ar ôl methu prawf cyffuriau.

Mae o wedi ei ryddhau dan ymchwiliad wrth i'r heddlu ddisgwyl canlyniadau profion pellach.

Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw un welodd y gwrthdrawiad, neu a welodd y ceir yn cael eu gyrru cyn y gwrthdrawiad, i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig