Alun Michael: Codi pryderon arian UE 'flwyddyn cyn ymddiswyddo'

  • Cyhoeddwyd
Alun Michael
Disgrifiad o’r llun,

Alun Michael oedd arweinydd cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru - sydd bellach yn cael ei alw'n Senedd Cymru

Fe gododd Alun Michael bryderon ynglŷn â chronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd bron i flwyddyn cyn iddo ymddiswyddo ynghylch y mater.

Ymddiswyddodd Mr Michael fel ysgrifennydd cyntaf Cymru yn 2000 yn sgil ffrae ynglŷn ag a fyddai Llywodraeth y DU yn cyfateb gwerth £1.2bn o grantiau'r UE yng Nghymru dros gyfnod o saith mlynedd.

Mewn papurau Cabinet o Wanwyn 1999, sydd newydd eu rhyddhau, mae Mr Michael yn annog gweinidogion y DU i bontio "y bwlch cyllido" gan ddweud ei fod yn "fan gwan".

Mae ymgynghorydd i Tony Blair - Prif Weinidog y DU ar y pryd - yn dweud y byddai addewid ariannol ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn "gyrru coets a cheffylau" drwy gynlluniau i reoli gwariant cyhoeddus.

'Man gwan' i'r llywodraeth

Ymddiswyddodd Alun Michael fel yr arweinydd Llafur yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru - fel oedd yn cael ei adnabod ar y pryd - ym mis Chwefror 2000 ar ôl iddo wynebu pleidlais o ddiffyg hyder.

Cyflwynodd Plaid Cymru bleidlais o ddiffyg hyder ynghylch cyllid Ewropeaidd ar gyfer rhanbarthau tlotaf Cymru.

Roedd y blaid yn ddig gyda methiant Trysorlys y DU i gyfateb i £1.2bn o grantiau gan yr UE a oedd wedi'u hamlinellu ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd.

Mae dogfennau newydd Llywodraeth y DU o'r Archif Genedlaethol yn Kew yn dangos bod Mr Michael wedi codi ei bryderon gyda San Steffan ym mis Mawrth ac Ebrill 1999.

Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Tony Blair etholiad cyffredinol 1997, gyda Llafur yn addo refferendwm ar ddatganoli i Gymru

Mewn llythyr a anfonwyd at y Prif Weinidog Tony Blair a'r Canghellor Gordon Brown fis Ebrill 1999, yn ystod yr ymgyrch ar gyfer etholiadau cyntaf y Cynulliad, dywedodd Mr Michael - oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd - fod yn rhaid iddo "bwyso am ymateb sylweddol a chadarnhaol i'r bwlch cyllido".

Mae'n nodi: "Mae'r mater yn fan gwan polisi llywodraeth sydd wedi dod i'r wyneb yn ystod y cyfnod etholiadol diweddar.

"Mae'r her gyson gan y pleidiau eraill a phwysau cyson gan y wasg yn cael effaith tamed wrth damed, sy'n ymddangos ar garreg y drws.

"Rwy'n gwneud ar lefel llywodraeth beth sy'n cyfateb i fasnachu tra'n fethdalwr!" [hwn wedi nodi yn dywyll ac wedi'i danlinellu yn y gwreiddiol]

"Os na allwn ni ragweld eich help yn y dyfodol yn yr hyn sy'n cael ei ddweud nawr, fyddwn ni ddim yn gallu ateb yr her wleidyddol."

Penbleth i'r llywodraeth

Mewn nodyn at Tony Blair, mae Pat McFadden - oedd yn ymgynghorydd i'r Prif Weinidog ar y pryd - yn dweud fod y mater yn cael ei godi gan bleidleiswyr ac "mae'n broblem gyda chynghrair o'r wasg ac mae'r cenedlaetholwyr yn ymosod arna ni dros hyn".

Dywedodd Mr McFadden yn y nodyn y gallai Mr Michael "gael ei hun mewn trafferthion gwirioneddol os yw'n addo rhywbeth na fydd yn ei gael gan lywodraeth ganolog, a chredaf y gallai fod eisoes yn rhy agos at ei wneud".

Ychwanegodd yr ymgynghorydd: "Yr hyn mae Alun yn gwneud cais amdano mewn gwirionedd yw'r gallu i roi ymrwymiad y bydd arian ychwanegol ar gael i ymdrin â hyn yn yr Adolygiad Gwariant nesaf. A hyd yn oed i ddweud y byddwn yn edrych eto ar flwyddyn tri o'r AG.

"Byddai hyn yn golygu dyrannu arian o'r gronfa wrth gefn ar ben yr uchafswm AG presennol, ynghyd ag addewid i ddyrannu arian at y diben hwn yn yr AG nesaf."

Ychwanegodd fod pryderon o fewn y llywodraeth am hynny: "Pe bydde chi'n pwyso'r Trysorlys yn llwyddiannus ar y mater hwn yna byddai'n arwain at gyfres o geisiadau tebyg."

Byddai'r Albanwyr, Gwyddelod a'r Saeson yn mynnu yr un driniaeth, meddai, gan "yrru coets a cheffylau drwy ein cynlluniau i reoli goblygiadau gwariant cyhoeddus Prydain o benderfyniadau cyllideb yr Undeb Ewropeaidd."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Rhodri Morgan olynu Alun Michael fel arweinydd Llafur yn y Cynulliad yn Chwefror 2000

"Yr hyn sy'n anodd yw os ydan ni'n gwrthod Alun, gallai'r holl beth gynyddu o ran pwysigrwydd fel mater etholiadol dros yr wythnosau nesa'.

"A gallai'r hyn sydd wedi dechrau fel stori ynglŷn â thrafodaethau llwyddiannus yn Ewrop droi yn stori fawr gwrth-lywodraeth ynglŷn â gwariant cyhoeddus."

Does dim cofnod o ymateb Tony Blair i'r nodyn yma.

Yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, Llafur enillodd y nifer fwya' o seddi gan arwain at Mr Michael yn dod yn arweinydd y sefydliad newydd tan iddo ymddiswyddo fis Chwefror 2000 yn sgil ffrae parhaus am gyllideb Ewropeaidd.

Cafodd Mr Michael ei olynu gan Rhodri Morgan, wnaeth yn y pen draw, oruchwylio'r gwaith o gyflwyno prosiect cronfeydd strwythurol Ewrop.

Gellir canfod rhagor o fanylion am bapurau Llywodraeth y DU ar wefan yr Archifau Cenedlaethol.