Apelio am wybodaeth wedi gwrthdrawiad ger Y Bala

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth wedi gwrthdrawiad ger Y Bala yn gynnar brynhawn Sul.

Dim ond un car - Jaguar oren F-Pace oedd yn y digwyddiad - a bu'n rhaid i yrrwr y car gael ei gludo mewn hofrennydd i ysbyty Stoke wedi iddo gael anafiadau sy'n peryglu ei fywyd.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A4212 ger Llyn Celyn toc cyn 12.20 a chredir bod y gyrrwr yn ei bumdegau.

Brynhawn Sul dywedodd y Sarjant Jason Diamond o Uned Blismona'r Ffyrdd: "Ry'n yn credu bod y car Jaguar wedi pasio rhai ceir cyn y gwrthdrawiad ac felly ry'n yn apelio ar yrwyr a theithwyr yn y cerbydau hynny ac unrhyw lygad-dyst arall i gysylltu â ni.

"Ry'n yn awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y car, sy'n eitha amlwg o ran ei liw, yn yr ardal cyn y gwrthdrawiad - fe allai unrhyw wybodaeth neu luniau dash cam fod o gymorth i'n hymchwiliad.

"Mae'r ffordd yn parhau ar gau ac fe hoffwn ddiolch i'r gymuned leol a theithwyr am eu hamynedd."

Pynciau cysylltiedig