Y Bencampwriaeth: West Bromwich Albion 1-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Cardiff celebrate James Collins' goalFfynhonnell y llun, Gareth Everett
Disgrifiad o’r llun,

Yr Adar Gleision yn dathlu gôl James Collins

Fe gafodd yr Adar Gleision gêm gyfartal yn erbyn West Bromwich Albion - un o dimau cryfaf y Bencampwriaeth brynhawn Sul.

Mae West Brom yn gyfforddus yn y chwech uchaf a Chaerdydd yn ceisio dianc o afael gwaelod y Bencampwriaeth.

Fe ddechreuodd yr Adar Gleision yn dda a'r gêm yn un agos ond roedd bygythiad cyson gan y tîm cartref ac heblaw am arbediad rhyfeddol gan Alex Smithies yn gôl Caerdydd byddai Callum Robinson wedi deffro'r Hawthorns.

Cafodd gwaith cyson yr Adar Gleision ei wobrwyo ar ôl 34 munud - cic gornel gan Joe Ralls a James Collins yn codi uwchben pawb a phenio'r bêl heibio Sam Johnstone. Felly 0-1 oedd y sgôr ar hanner amser.

Tair munud i mewn i'r ail hanner fe ddaeth cyfle arall i Callum Robinson a chydag ergyd droed chwith fe blannodd y bêl yng nghornel dde isaf y rhwyd, ac 'roedd y timau yn gyfartal.

Roedd hi'n gêm fywiog iawn wedi hynny gyda'r ddau dîm yn edrych yn beryglus iawn wrth ymosod.

Aeth West Brom i lawr i ddeg dyn chwarter awr cyn diwedd y gêm wedi i Alex Mowatt gael cerdyn coch am dacl flêr ar Will Vaulks.

Nid oedd yr un o'r ddau dîm am ildio wedi hynny, a'r ddau yn parhau i ymosod gan chwilio am y tri phwynt.

Roedd amddiffyn da gan y ddau dîm ond wedi'r chwiban olaf cafodd Adrian Fflint a Sam Johnstone gerdyn coch yr un am ymladd - diwedd i ddadl ffyrnig lle roedd West Brom yn hawlio cic o'r smotyn.

Yn y diwedd roedd rhaid bodloni ar gêm gyfartal ond fe lwyddodd Caerdydd i ddal eu tir yn erbyn un o dimau cryfaf y Bencampwriaeth.