Y Gynghrair Genedlaethol: Notts County 3-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
pel-droedFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd hi'n ganlyniad siomedig i Wrecsam oddi cartref yn Meadow's Lane yn erbyn Notts County wrth golli o 3-1 yn y Gynghrair Genedlaethol.

Cafodd Wrecsam ddechrau addawol gyda Reece Hall-Johnson yn sgorio gôl yn y pedair munud cyntaf i roi'r tîm ar y blaen o gôl i ddim.

Wedi 10 munud, roedd Wrecsam i lawr i 10 dyn yn dilyn llawiad gan Harry Lennon. Gyda hynny, daeth Notts County i unioni'r sgôr i 1-1 gyda Kyle Wootton yn cyrraedd y rhwyd o'r smotyn.

Gôl arall i Notts County, gyda Kyle Wootton yn sgorio'i ail gôl i ddod a'r sgôr i 2-1 wedi 39 munud ar yr egwyl.

Ddeng munud i mewn i'r ail hanner, cic o'r smotyn i Wrecsam ond Paul Mullin yn methu. Arbediad allweddol gan golwr Notts County, Anthony Patterson yn rhwystro Wrecsam rhag cael pwynt ychwanegol ar y sgorfwrdd.

Wedi 67 o funudau, y tîm cartref yn llwydo i ymestyn eu mantais eto gyda gôl i Jayden Richardson. Notts County ar y blaen o 3-1.

Dyna oedd y diwedd ar y sgorio - ac ar ddiwedd y gêm, Wrecsam yn dal eu tir yn nhrydedd safle tabl y Gynghrair Genedlaethol a Notts County'n codi i'r chweched safle.