Canfod gyrrwr beic cwad yn farw ar lwybr seiclo
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw dyst neu unrhyw un sydd â lluniau teledu cylch cyfyng neu dashcam yn Heol Canterbury rhwng 17:00 a 18:00 ddydd Sadwrn i gysylltu â nhw
Mae gyrrwr beic cwad 25 oed wedi marw ym Mlaenau Gwent.
Cafodd y dyn ei ganfod gan aelod o'r cyhoedd ar lwybr seiclo rhwng Cendl (Beaufort) a Nant-y-glo.
Fe gafodd ambiwlans awyr a meddygon brys eu galw i'r digwyddiad toc cyn 18:00 ddydd Sadwrn.
Ond dywedodd Heddlu Gwent fod y dyn, oedd yn dod o ardal Glyn Ebwy, wedi marw.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ar hyn o bryd ond mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth.