Poen 'ofnadwy' teulu milwr o Fôn gafodd ei drywanu
- Cyhoeddwyd
Dywed teulu milwr ifanc o Ynys Môn a gafodd ei drywanu dros y penwythnos ei bod hi'n amhosib disgrifio eu poen.
"Mae o bron di colli'i fywyd," meddai tad Chris Griffith, 17. "Dosna'm excuse i neb gario cyllell."
Mae'r llanc o Landrygarn ger Llannerch-y-medd wedi bod yn y fyddin ers ychydig dros flwyddyn.
Roedd angen pedair awr o lawdriniaeth arno, ac fe gollodd chwarter ei waed ar ôl cael ei drywanu yn y pelfis yng Nghaergybi ar 7 Ionawr.
Dywed ei deulu ei fod yn dal mewn poen difrifol ac yn "brwydro am ei fywyd" yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Maen nhw'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y digwyddiad.
'Methu cysgu'n nos'
Yn siarad gyda BBC Cymru, dywedodd ei dad, Owen Griffith: "Fedrai'm a deutha' chi faint o boen ma' hyn 'di bod.
"'Da ni gyd fel teulu 'di cael job ofnadwy... da ni methu cysgu'n nos na'm byd."
Mae'r teulu wedi canmol ffrind i Chris a ddaeth o hyd iddo yn fuan ar ôl yr ymosodiad a'i gludo i'r ysbyty.
Ffoniodd Oliver Williams 999 ar y ffordd i wneud yn siŵr y gallai Chris gael ei drin ar unwaith ar ôl cyrraedd.
"A'th o cyn fast a galla fo o Gaergybi i Fangor," meddai Mr Griffith.
"Heb bod o 'di gneud hynny, bysa fo [Chris] 'di gwaedu i'w farwolaeth."
Rhoddodd glod hefyd i'r triniaeth gafodd ei fab yn Ysbyty Gwynedd a wnaeth "safio'i fywyd".
Ychwanegodd fod y teulu wedi "dod at ei gilydd," sydd wedi bod yn "help mawr".
"A dydi'r ffôn ddim 'di stopio, bob bore tan nos... pobl yn dweud bod ddrwg gennyn nhw."
'Siŵr' bod gan bobl wybodaeth
Mae Owen Griffith wedi apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld yr ymosodiad yn ardal Tan yr Efail yng Nghaergybi i gysylltu â'r heddlu.
"Os oes 'na rywun yn gwybod rhywbeth - a dwi'n siŵr bod 'na bobl sydd yn gwybod - mi fedran nhw fynd at yr heddlu a deud be' ma' nhw'n ei wybod a dos na'm rhaid i hynna ddod i'r golwg.
"Galla'i ddim dweud pa mor ddiolchgar fysa ni i bobl ddŵad ymlaen."
Fe allai hyn arbed rhieni eraill rhag mynd trwy'r un profiad a nhw, ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn apelio am dystion ar ôl ymosodiad ar ddyn yn ardal Tan-yr-Efail yng Nghaergybi am tua 20:30 nos Wener, 7 Ionawr.
"Mae dyn 18 oed, oedd yn hysbys i'r dioddefwr, wedi'i arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth er mwyn i ymholiadau pellach gael eu cwblhau.
"Nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad ar hyn o bryd.
"Fodd bynnag, os oeddech chi'n dyst i'r ymosodiad, wedi clywed unrhyw ffrae yn yr ardal, neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth arall am y digwyddiad hwn, cysylltwch â ni."