Siopau elusennau angen rhoddion a phrynwyr
- Cyhoeddwyd
Dywed siopau elusen sydd wedi colli miliynau o arian yn sgil Covid eu bod angen rhoddion i ddiogelu eu dyfodol.
Mae elusen British Heart Foundation (BHF) Cymru yn dweud ei bod wedi gwneud colled o £50m yn ystod y blwyddyn gyntaf y pandemig wedi i'w siopau orfod cau - arian a fyddai wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith ymchwil.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Llŷr Morris, rheolwr siop elusen BHF ym Mangor: "Dros y cyfnod clo ddaru ni golli hanner can miliwn o bunnau fel cwmni... na'th o gael effaith mawr arnom ni.
"Unrhyw eitemau fuasan ni'n falch iawn o rhywbeth - mae'r cyhoedd yn gallu dod i mewn er mwyn i ni allu gwneud rhywbeth allan ohonyn nhw.
"Mae bob dim 'dan ni'n gael yn cael ei werthu yn y siop a'r arian rhan fwyaf yn mynd at ymchwil y galon a nyrsys hefyd yn Ysbyty Gwynedd."
Mae elusennau eraill hefyd yn dweud eu bod nhw wedi cael colledion sylweddol oherwydd Covid.
Mae Rhodri Davies yn gweithio i Ymchwil Canser Cymru ac mae'n dweud bod y pandemig wedi cael cryn effaith ar incwm.
"Ar y cyfan gollon ni tua 50% ar draws yr elusen gyfan ond na'th yr ochr siopau golled o 83% flwyddyn d'wetha," meddai.
"Mae hwnnw wedyn yn adio fyny i £400,000, sydd i elusen annibynnol Gymreig fatha ni yn llawer - mae o wedi cael effaith hirdymor arnom ni."
Collodd elusen Tŷ Hafan lawer o arian hefyd yn ystod y pandemig.
Dywedodd Lara James, un o'r gweithwyr: "Cyn y pandemig roedd o gwmpas trydydd o'r arian oedd yn dod mewn i Tŷ Hafan o'r siopau ond mae hwnna wedi mynd lawr felly mae'n bwysig iawn i ni gael y rhoddion yma a bod pobl yn prynu ganddon ni hefyd."
Ar ddechrau blwyddyn newydd mae'r elusennau yn gobeithio y bydd ychydig o ysbryd y Nadolig yn parhau am beth amser eto, ac y bydd y cyhoedd yn mynd ati i'w cefnogi drwy gyfrannu a phrynu dros y misoedd nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020