Elusennau dan bwysau oherwydd coronafeirws
- Cyhoeddwyd
Mae elusennau wedi rhybuddio na fyddan nhw'n gallu parhau i ddarparu rhai o'u gwasanaethau am y tro oherwydd argyfwng y coronafeirws.
Mae'r Gymdeithas Alzheimer yn un o nifer o elusennau sy'n dweud eu bod dan bwysau aruthrol oherwydd yr haint.
Ychwanegodd elusen iechyd meddwl Hafal y gallai pobl fregus roi mwy o bwysau ar y gwasanaeth iechyd os nad yw'r elusennau sy'n eu cefnogi yn derbyn cymorth.
Cymorth dros y ffôn
Dywedodd y Gymdeithas Alzheimer eu bod wedi penderfynu rhoi'r gorau i gynnal gwasanaethau wyneb yn wyneb a gwasanaethau grŵp am y tro.
"Ry'n ni'n cyfnewid y rhain am fwy o gymorth dros y ffôn er mwyn sicrhau ein bod yn cefnogi lles pobl sy'n ynysu eu hunain," medd yr elusen mewn datganiad.
Yr her fwyaf i'r elusen yw cydbwyso'r angen am atal y feirws rhag lledu, ac ystyried y ffaith y gallai cyfnod o ynysu fod yn niweidiol tu hwnt i bobl sy'n byw â dementia.
"Ry'n ni felly'n edrych am y ffyrdd gorau o gadw cysylltiad â chefnogi pobl sy'n dioddef o ddementia drwy'r cyfnod hwn ac yn parhau a rhai o'n gweithgareddau - fel Canu i'r Ymennydd - ar wahân, yn ddiogel."
Ond yn ôl elusen Llamau sy'n helpu rhai o aelodau mwyaf bregus y gymdeithas, does dim dewis ond parhau i gynnig gwasanaethau ar adeg pan maen nhw'n disgwyl i'r galw fod yn uwch.
"Ry'n ni'n disgwyl mwy o alw am rai o'n gwasanaethau, fel cymodi teuluol a gwasanaethau cam-drin yn y cartref," meddai prif weithredwr yr elusen, Frances Beecher.
"Ry'n ni'n gorfod blaenoriaethu pa wasanaethau i gadw ar agor - ein cynlluniau 24 awr, cymod teuluol a chyngor i bobl ifanc a llinell ffôn i bobl ifanc ddigartref, yn ogystal â'n gwasanaethau cam-drin yn y cartref.
"Mae hefyd yn anochel y bydd ein hincwm o weithgareddau codi arian yn ddioddef yn sylweddol.
"Os bydd tarfu am dri mis arall, gallem ni weld gostyngiad o £300,000 yn ein hincwm y flwyddyn nesaf."
'Cefnogwch y trydydd sector'
Mae elusen Hafal hefyd yn rhannu'r un pryderon, wedi i ddigwyddiadau mawr i godi arian fel marathon Llundain gael eu canslo.
Yn ôl Matt Pearce o'r elusen, mae elusennau bach yn enwedig dan fygythiad, ac mae wedi galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi'r trydydd sector.
"Mae'n adeg bryderus iawn," eglurodd Mr Pearce.
"Mae ymlediad y feirws yn achos pryder i unrhyw un, ond i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn barod, gall waethygu eu symptomau."
I elusennau ar draws y wlad, mae dulliau cyson o gyllido hefyd yn dioddef.
"Mae llai o bobl yn siopa ac yn cyfrannu nwyddau i siopau elusen," meddai Rachal Minchinton, cadeirydd Sefydliad Codi Arian Cymru.
"Mae gan lawer o siopau elusen gyfran uchel o bobl hŷn yn gwirfoddoli drostyn nhw, felly mae hynny wedi effeithio'n fawr ar eu gallu i aros ar agor."
Sut mae elusennau yn helpu'r GIG?
"Mae'r gwasanaethau ry'n ni - ac elusennau eraill - yn eu darparu yn wirioneddol hanfodol oherwydd maen nhw'n cadw pobl yn iach ac yn sicrhau nad yw pobl yn mynd i'r ysbyty," ychwanegodd Mr Pearce.
"Gobeithio bydd y llywodraeth yn sicrhau bod y trydydd sector yn cael digon o gefnogaeth drwy gydol yr argyfwng, oherwydd ry'n ni'n darparu gwasanaethau pwysig sy'n lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd."
Yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd y canghellor Rishi Sunak "gynllun benthyciadau tarfu busnes dros dro" i fanciau gynnig benthyciadau o hyd at £1.2m i gefnogi busnesau maint bach a chanolig.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys bod hawl gan elusennau ymgeisio am fenthyciadau drwy'r cynllun, gyda'r llywodraeth yn rhoi sicrwydd o 80% i fenthycwyr ar bob benthyciad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020