Codi arian i elusen... trwy blastro am 24 awr

  • Cyhoeddwyd
Meirion Jones

Mae adeiladwr o'r Bala wedi cwblhau sialens go arbennig i blastro am 24 awr.

Fe wnaeth Meirion Jones y dasg i godi arian at ymchwil canser y coluddyn.

Daeth yr her i ben am 15:00 ddydd Gwener wedi iddo gychwyn arni ddydd Iau.

Penderfynodd Meirion godi arian at yr achos ar ôl i'w wraig Llinos gael canser y coluddyn yn Rhagfyr 2019.

Pam plastro am 24 awr?

Cyn yr her, dywedodd Meirion wrth Cymru Fyw: "Pam plastro am 24 awr? Wel dwi'm yn un am seiclo, dwi'm yn rhedeg... dwi'm yn nofio… felly dyma fi'n meddwl gan fy mod i'n gallu plastro baswn i'n plastro.

"Dwi wedi bod yn plastro am flynyddoedd so gawn ni weld. Bydd y breichiau yn sore erbyn y diwedd.

"Fyddai'n ei wneud o fatha diwrnod gwaith… plastro am ddwy awr a chael brêc… plastro am ddwy awr a chael brêc neu fyddan nhw'n gorfod llusgo fi allan.

"Dwi'n edrych ymlaen mewn rhyw ffordd od ond dwi'n nerfus ar y ffordd arall hefyd."

Mae gan Meirion a Llinos bedwar o plant a dim ond 38 oed oedd Llinos pan gafodd y canser.

Dywedodd hi wrth Cymru Fyw: "Ym mis Rhagfyr 2019 ges i'r newyddion bod y canser gen i, ond wedyn ar ôl llawdriniaeth a chemotherapi dwi'n falch o ddweud mod i wedi dod allan yr ochr arall wedyn.

"Dwi isio creu ymwybyddiaeth i bobl eraill bo' chi byth yn rhy ifanc i gael canser o unrhyw fath, felly os oes gennych chi unrhyw symptomau plîs, plîs ewch i weld y doctor.

"Os 'de chi'n cael o'n gynnar, dyna ydi'r gwir, 'de chi'n mynd i fod yn olreit."

Y nod cynta' oedd codi £500, ond mae bron i £3,000 wedi ei hel erbyn diwedd yr her.

Pynciau cysylltiedig