Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-1 Blackburn Rovers

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Chwarae mewn stadiwm wag oedd hanes Caerdydd wrth iddynt groesawu Blackburn Rovers, un o'r timau sydd ar frig y Bencampwriaeth, brynhawn Sadwrn.

Ar ôl llai na chwarter awr roedd Caerdydd wedi ildio gôl - cafodd Joe Rothwell le ar ymylon y blwch cosbi a rhoi ergyd droed dde gadarn i gornel y rhwyd.

Roedd yr hanner cyntaf yn gymharol gyfartal ar ôl hynny gyda'r un o'r ddau dîm yn creu llawer o gyfleoedd da.

Er iddynt gael mwyafrif o'r meddiant roedd yr Adar Gleision yn gorffen yr hanner cyntaf yn colli o un gôl i ddim.

Roedd Caerdydd yn fwy ymosodol yn yr ail hanner, ond eto heb lwyddiant a gyda hanner awr i fynd fe wnaeth Steve Morrison, rheolwr Caerdydd, rai newidiadau - Isaak Davies a Marlon Pack yn dod i'r cae.

Aeth Blackburn i lawr i ddeg dyn wedi i Ryan Nyambe lorio Perry Ng.

Yn fuan wedyn daeth chwaraewr ifanc arall i'r cae i Gaerdydd - Rubin Calwill yn lle Cody Drameh.

Roedd y chwarae yn fywiog iawn yn y munudau olaf a Chaerdydd yn bygwth o hyd ond heb lwyddiant.

Crafu buddugoliaeth wnaeth Blackburn Rovers a'r Adar Gleision yn colli brwydr gorfforol galed unwaith eto ar dir eu hunain.