Tlws FA Lloegr: Wrecsam 5-1 Folkestone

  • Cyhoeddwyd
Jordan PonticelliFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymunodd Jordan Ponticelli â'r Dreigiau yn Awst 2020

Roedd y goliau yn llifo ar y Cae Ras nos Sadwrn wrth i Wrecsam drechu Folkestone Invicta ym mhedwaredd rownd Tlws FA Lloegr.

Mae Folkestone ddwy gynghrair yn is na'r Dreigiau ac roedd cryfder Wrecsam yn amlwg o'r cychwyn cyntaf.

Daeth y gôl gyntaf gan Jordan Ponticelli - plannodd y bêl yn y gôl o flaen rhwyd agored wedi i Tim Roberts arbed peniad Kwame Thomas.

Daeth ail gôl Ponticelli ar ddechrau'r ail hanner wedi cyd chwarae effeithiol iawn.

Er bod sawl cyfle arall wedi dod i Wrecsam, ni chafwyd gôl tan ryw ugain munud o ddiwedd y gêm pan beniodd Jordan Davies gic gornel Luke Young i'r rhwyd.

Ond daeth sioc i'r Dregiau ddwy funud yn ddiweddarach pan sgoriodd Adeoye Yussuf gôl gydag ergyd rymus o ymyl y blwch cosb - roedd hi'n 3-1.

Roedd ymateb y Dreigiau yn gadarn, ymhen tair munud daeth gôl arall iddyn nhw gan Bryce Hosannah ac ymhen dwy funud y bumed gôl gan Kwame Thomas.

Gwobr Wrecsam yw cyrraedd yr 16 olaf yn nhlws yr FA - tlws a gipiwyd ganddynt yn Wembley yn 2013.