Teulu o Gaerdydd yn poeni am berthnasau yn Tonga

  • Cyhoeddwyd
Gwenno UhiFfynhonnell y llun, Gwenno Uhi
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Gwenno Uhi yn byw n Vava'u sydd ymhellach i'r gogledd

Dywed Gwenno Uhi, sy'n byw yng Nghaerdydd, bod hi a'i gŵr wedi methu cysylltu â'r teulu yn Tonga wedi i tswnami daro rhannau o'r ynys ddydd Sadwrn.

"Mae teulu fy ngŵr dal yna a ni ddim wedi clywed dim - does dim ffordd o gysylltu gydag unrhyw un draw 'na ar hyn o bryd," meddai wrth siarad â Newyddion S4C.

Yn gynharach dywedodd Prif Weinidog Seland Newydd, Jacinda Ardern, fod y tswnami a darodd Tonga ddydd Sadwrn wedi achosi difrod i rannau o'r ynys, ond nad oedd adroddiadau fod unrhyw un wedi marw.

Ffynhonnell y llun, NOAA
Disgrifiad o’r llun,

Ffrwydrad folcanig yn ne'r Môr Tawel achosodd y tonnau mawr

Ffrwydrad folcanig yn ne'r Môr Tawel achosodd y tonnau mawr. Ychwanegodd Ms Ardern bod cysylltu â Tonga yn anodd a bod un o longau llynges Seland Newydd wedi ei hanfon i'r ardal.

"Dyw fy nheulu ddim yn byw ar y brif ynys," ychwanegodd Gwenno Uhi, "ma nhw'n byw yn Vava'u sydd ymhellach i'r gogledd.

"Ni'n gobeithio bod y tonnau a'r lludw ma's o'r llosgfynydd ddim wedi cyrraedd fanna.

"Jyst ishe 'neud yn siŵr bo nhw'n iawn o ran trydan a dŵr a phethau ma' nhw angen o ddydd i ddydd ry'n ni.

"Mae 'di bod yn rhyfedd bod dim gwybodaeth o gwbl wedi bod yn dod mas - dim llun, dim ffilmiau - dim byd."

Ychwanegodd Ms Uhi ei bod yn wlad dlawd a'i bod yn ddibynnol iawn ar help y tu allan i'r wlad - fel arfer gan Seland Newydd ac Awstralia.

"Gobeithio bydd yna well syniad o unrhyw ddinistr sydd 'na a bod neb wedi anafu. Bydd yn bendant dinistr ac angen clirio," meddai.

Pynciau cysylltiedig