Dyn wedi marw ar ôl tân mewn fflat yn Sir Conwy

  • Cyhoeddwyd
Plas ForydFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r digwyddiad yn natblygiad Plas Foryd ym Mae Cinmel toc cyn 14:00

Mae dyn oedrannus wedi marw yn dilyn tân mewn fflat yn Sir Conwy brynhawn Mawrth.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi'u galw i'r digwyddiad yn natblygiad Plas Foryd ym Mae Cinmel toc cyn 14:00.

Yn ôl y gwasanaeth cafodd corff dyn, a gredir oedd yn ei 80au, ei ganfod yn y fflat gan ddiffoddwyr.

Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng yr heddlu a'r gwasanaeth tân i achos y digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig