Paratoi i adfer murlun sy'n dathlu amrywiaeth y brifddinas
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith o adfer murlun sy'n cael ei adnabod fel "Mona Lisa Caerdydd" wedi cychwyn ddeuddydd wedi i rywun baentio drosto i greu hysbyseb McDonald's.
Cafodd y gwaith celf ei greu yn Nhrebiwt gwanwyn y llynedd i hybu amrywiaeth y brifddinas.
Ond yn ystod y penwythnos fe baentiwyd dros y murlun gwreiddiol mewn paratoad ar gyfer cytundeb hysbysebu yn sgil cytundeb gan asiantaeth hysbysebu i ddefnyddio'r wal.
Dywedodd cwmni McDonald's nad oeddynt yn ymwybodol o'r murlun a'u bod wedi gofyn i'r artistiaid gwreiddiol i greu darn newydd o waith.
Mae'r wal wedi ei phaentio'n wyn a dyw hi ddim yn glir sut y bydd y murlun yn edrych ar ei newydd wedd.
Dywedodd y dylunydd, Yusuf Ismail, fod y murlun yn rhan "o'n hetifeddiaeth fel dinas, gan ddangos pa mor aml-ddiwylliannol yw Caerdydd ac rydym yn falch bod McDonald's wedi cydnabod hynny".
Dywedodd hefyd bod yr asiantaeth yn gwybod am arwyddocâd diwylliannol y murlun ond eu bod wedi bwrw ymlaen â'u hymgyrch hybu byrgyrs, er gwaethaf hynny.
Ychwanegodd: "Rydym yn ceisio darganfod beth ydi'r cynllun gorau.
"Wedi cael llawer o sgyrsiau rydym wrth ein bodd fod pethau'n symud ymlaen yn gadarnhaol. Mae McDonald's yn awyddus iawn i ddatrys y mater hwn ac rydym yn deall mai camgymeriad oedd hyn."
Cafodd y gwaith gwreiddiol ei ddifrodi y llynedd o fewn misoedd i'w gwblhau ond fe wnaeth disgyblion o ysgolion cyfagos godi arian i gadw'r murlun.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2021