Difrodi murlun sy'n dathlu amrywiaeth Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae murlun a gafodd ei greu er mwyn hybu amrywiaeth a chynhwysiad yng Nghaerdydd wedi cael ei ddifrodi'n fwriadol.
Mae'r murlun yn rhan o brosiect My City, My Shirt sy'n ceisio annog cymunedau lleiafrifol i ymwneud gyda chlwb pêl-droed a dinas Caerdydd.
Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i'r difrod sydd wedi ei wneud i'r murlun yn Nhre-biwt.
Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Dyma symbol arall o bopeth sy'n wych am Gaerdydd yn cael ei fandaleiddio gan leiafrif bach, bach iawn."
Mae'r murlun yn agos i swyddfeydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ac fe ddywedon nhw ar y cyfryngau cymdeithasol: "Rydyn yn drist ac wedi cael sioc i weld fod y murlun #MyCityMyShirt sydd wrth ymyl ein swyddfeydd ym Mae Caerdydd wedi'i ddifwyno.
"Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo'r heddlu o ran lluniau teledu cylch cyfyng."