Traffig porthladdoedd Cymru wedi gostwng 30% yn 2021

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CaergybiFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy o gwmnïau yn osgoi Caergybi ac Abergwaun er mwyn teithio'n syth i dir mawr Ewrop bellach

Fe welodd porthladdoedd Caergybi ac Abergwaun ostyngiad o 30% mewn traffig yn 2021, yn ôl y cwmni sy'n rheoli'r safleoedd.

Dywedodd pennaeth porthladdoedd Stena Line yn y DU, Ian Davies fod hynny oherwydd y berthynas fasnach gyda'r Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit, yn hytrach na'r pandemig.

Ond ychwanegodd fod y cwmni "wedi ymrwymo yn y tymor hir" i'w borthladdoedd yng Nghymru, a'u bod yn disgwyl i bethau wella.

Dywedodd Mr Davies fod dechrau'r berthynas newydd rhwng y Deyrnas Unedig a'r UE wedi taro porthladdoedd Cymru yn "eithaf caled".

'Cymru wedi'i tharo'n wael'

"Ym mis Ionawr [2021] roedd gostyngiad mawr o 50-60% o ran cerbydau cludo," meddai wrth Politics Wales.

"Roedd hynny oherwydd bod pobl angen dod i arfer ychydig â'r systemau a'r ddogfennaeth newydd oedd ei angen - fe wnaeth e ddal pobl mas.

"Ond yna fe wnaeth pethau wella'n raddol, ond nawr mae'n ymddangos ein bod wedi cyrraedd plateau - tua 30% yn is na'r hyn a welon ni yn 2019."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ian Davies fod Stena Line "wedi ymrwymo yn y tymor hir" i'w borthladdoedd yng Nghymru

Ychwanegodd Mr Davies nad yw'r pandemig wedi cael cymaint o effaith â hynny am fod nifer y llongau ym Môr Iwerddon "tua'r un lefel" yn 2019 a 2021.

"Mae porthladdoedd Cymru a'r llwybrau o Gymru wir wedi cael eu taro'n wael," meddai.

Mwy o lwybrau'n osgoi'r DU

Ym mis Hydref dywedodd gweinidog materion tramor Iwerddon eu bod wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y llwybrau sy'n osgoi'r DU yn llwyr a mynd yn syth i dir mawr Ewrop.

Yn ôl Simon Coveney mae nifer y llwybrau sy'n osgoi'r DU wedi cynyddu o "lai na dwsin" i 44.

Mae'r daith honno yn golygu bod modd osgoi gwaith papur a chwiliadau eraill o ganlyniad i Brexit, ond maen nhw'n ddrytach nac ydy'r llwybr trwy'r DU.

Dywedodd pennaeth Porthladd Dulyn yr wythnos hon eu bod hwythau wedi gweld gostyngiad mawr yn y nifer sy'n defnyddio'r llwybr trwy Gaergybi, ac nad yw'n rhagweld y bydd yn dychwelyd i'w hen lefelau eto.

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Mae osgoi'r DU yn golygu bod modd osgoi gwaith papur a chwiliadau eraill o ganlyniad i Brexit

Ond dywedodd Ian Davies fod y llwybr trwy'r DU yn parhau'n llawer mwy poblogaidd na mynd yn syth o Iwerddon i dir mawr Ewrop.

"O ran canran mae cynnydd enfawr wedi bod, ond mae'n rhaid i chi gofio mai marchnad fechan iawn oedd hon o'r blaen [cyn Brexit]," meddai.

Trefniadau dros dro

Daeth i'r amlwg yr wythnos hon fod Llywodraeth Cymru yn ystyried trefniadau dros dro mewn ymateb i wirio ychwanegol fydd yn angenrheidiol ar gynnyrch fydd yn cyrraedd porthladdoedd Cymru o fis Gorffennaf ymlaen.

Ar y gweill mae cynllun i adeiladu gorsaf rheoli ffiniau (BCP) ym Mharc Cybi, ar gyrion Caergybi, i archwilio rhai mathau o gynnyrch sy'n teithio drwy'r porthladd yn sgil gadael yr UE.

Ond tra'n disgwyl am ganiatâd cynllunio, does ddim disgwyl iddo fod yn barod erbyn cyflwyniad y rheoliadau newydd o fis Gorffennaf 2022.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod "wedi gwneud paratoadau helaeth ac yn parhau i weithio'n agos ag awdurdodau porthladdoedd, y gweinyddiaethau datganoledig a phartneriaid eraill i gyflawni'r systemau a'r isadeiledd sydd ei angen ar amser".

Dywedodd Ian Davies nad yw'n rhagweld y bydd yr oedi yn cael llawer o effaith arnyn nhw, ond eu bod angen "mwy o eglurder" yn y dyfodol.

"Rydyn ni'n gwybod fod Llywodraeth y DU yn trafod cael 'ffin ddigidol' erbyn 2025," meddai.

"Felly'r cwestiwn yw 'pam ydyn ni'n mynd trwy'r holl fuddsoddiad yma ar isadeiledd pan mae'n bosib mai ffin ddigidol fydd gennym erbyn 2025?"

Angen i'r Ceidwadwyr 'lanhau'r llanast'

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds fod angen i'r Ceidwadwyr "gymryd cyfrifoldeb a glanhau'r llanast maen nhw wedi'i wneud" gyda Brexit.

"Mae'r Ceidwadwyr yn methu ag hyd yn oed ceisio mynd i'r afael â'r problemau maen nhw wedi'i achosi," meddai.

"Mae swyddi a bywoliaethau pobl yn dibynnu ar hynny yn ogystal ag economi Cymru'n ehangach, sydd ddim angen unrhyw drafferthion pellach wrth i ni geisio symud 'mlaen o'r pandemig."

BBC Politics Wales, BBC One Wales am 10:00 fore Sul ac yna ar iPlayer.