Y Gynghrair Genedlaethol: Yeovil 1-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi codi i'r chweched safle yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr ar ôl troi'r gêm ar ei phen i drechu Yeovil brynhawn Sadwrn.
Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi chwarter awr wrth i ergyd Tom Knowles guro'r golwr Rob Lainton.
Ond wedi awr o chwarae roedd y Cymry yn gyfartal, gyda Paul Mullin yn crymanu ergyd o ymyl y cwrt cosbi i gornel ucha'r rhwyd.
Llwyddodd yr ymwelwyr i droi'r gêm ar ei phen gyda 10 munud yn weddill wrth i Morgan Williams roi'r bêl i'w rwyd ei hun a rhoi Wrecsam ar y blaen.
Mae Wrecsam yn codi i'r chweched safle yn y tabl - pum pwynt yn unig o'r brig.