Paentio dros furlun oedd yn dathlu amrywiaeth Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Murlun

Mae murlun oedd yn dathlu amrywiaeth Caerdydd wedi cael ei baentio drosto i wneud lle ar gyfer hysbyseb i McDonald's.

Cafodd y gwaith celf, yn ardal Trebiwt, ei greu yng ngwanwyn 2021 er mwyn hybu amrywiaeth a chynhwysiad yn y brifddinas.

Fe gafodd ei ddifrodi gan baent ym mis Hydref, gyda'r heddlu'n trin y digwyddiad fel trosedd casineb, ond mae bellach wedi diflannu'n llwyr.

Dywedodd McDonald's nad oedd yn ymwybodol o'r murlun, a'u bod wedi gofyn i'r artist "ail-baentio'r gwaith gwreiddiol yn syth".

Yn ôl y cwmni, trydydd parti oedd yn gyfrifol am rentu'r gofod ar y wal.

Ffynhonnell y llun, Cathy Owen
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y wal ei phaentio yn felyn ddydd Sadwrn er mwyn gwneud lle ar gyfer hysbyseb McDonald's

Ond dywedodd Yusuf Ismail, oedd yn rhan o greu'r murlun gwreiddiol, ei fod yn teimlo nad ydy adfer y murlun yn ddigon, a bod angen "gwneud rhywbeth gydag ychydig o etifeddiaeth iddo".

"Gadewch i ni edrych ar yr ochr bositif - mae'n rhywbeth fydd yno am hirach," meddai.

Pynciau cysylltiedig