Y Bencampwriaeth: Queens Park Rangers 0-0 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Flynn DownesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Anfonwyd Flynn Downes o'r maes yn yr eiliadau olaf

Er cerdyn coch tua'r diwedd, llwyddodd Abertawe i sicrhau gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn QPR yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.

Abertawe oedd wedi sicrhau mwyafrif y meddiant, ac fe ddaeth Joel Piroe'n agos at sgorio.

Tarodd QPR y postyn hefyd cyn i gôl gan Michael Obafemi gael ei wrthod am gamsefyll yn ystod amser ychwanegol.

Gwelodd Flynn Downes gerdyn coch i'r Elyrch yn ystod yr eiliadau olaf.

Roedd eisoes wedi derbyn cerdyn melyn ac fe anfonwyd y gŵr 23 oed o'r maes mewn digwyddiad a welodd Charlie Austin hefyd yn gweld cerdyn melyn i'r tîm cartref.

Gan aros yn 17eg safle, fe lwyddodd yr Elyrch i ddod â rhediad y tîm cartref, sy'n parhau yn y pedwerydd safle, o bedair buddugoliaeth yn olynol i ben.