Cyfrifiad 1921: 'Enwau Cymraeg yn anghywir'

  • Cyhoeddwyd
Priodas Nain Bryn Jones, Elizabeth Jones, Ty'n Llechwedd, Llangadfan gyda'i Daid Osbourne Jones, Bodyddon Fach, LlanfyllinFfynhonnell y llun, Bryn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Priodas Nain Bryn Jones, Elizabeth Jones, Ty'n Llechwedd, Llangadfan gyda'i Daid Osbourne Jones, Bodyddon Fach, Llanfyllin

Mae camgymeriadau yn y gwaith trawsgrifio yng nghofnodion Cyfrifiad 1921 yn gwneud gwaith ymchwil yn anodd, yn ôl un sydd wedi bod yn hel achau.

Mae Bryn Jones bellach yn byw ar Ynys Wyth, ond mae ei wreiddiau yn Sir Drefaldwyn, ac roedd cyhoeddi Cyfrifiad 1921 yn rhywbeth roedd yn ei groesawu.

Wrth iddo bori trwy'r wefan, fe ddaeth i'r amlwg bod nifer o enwau Cymraeg wedi'u trawsgrifio yn anghywir.

'Gwbl rwtsh... dim synnwyr'

"Y broblem ydy bod nhw wedi trawsgrifio bron pob lle Cymraeg ac ati yn anghywir…. y rhai dwi wedi bod yn edrych i fyny beth bynnag," meddai.

"Maen nhw'n edrych yn gwbl rwtsh mewn ffordd… 'dyn nhw ddim yn gwneud dim synnwyr o gwbl.

Disgrifiad o’r llun,

'Rwtsh' yw un o ddisgrifiadau Bryn Jones o'r gwaith trawsgrifio

"Pan ewch chi i chwilio yn y cyfrifiad mae'n rhaid i chi dalu bob tro 'da chi'n edrych fyny enw neu gyfeiriad ac ati, a does 'na ddim modd gwybod o flaen llaw os 'da chi wedi cael y lle neu berson cywir.

"Ac wrth gwrs os mae 'na gamgymeriadau mae o'n gwneud y gwaith bron â bod yn amhosib.

"Dwi'n credu dim ond llefydd Cymraeg a phobl Cymraeg ag enwau Cymraeg sydd wedi cael eu trawsgrifio yn anghywir."

Mae un enghraifft ganddo yn dangos cartref ei nain ym mhlwyf Llangadfan, Tyn Llechwedd, fel 'Sy Lwznter Nore'.

Ffynhonnell y llun, Bryn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dyma sut y mae'r wybodaeth yn ymddangos ynghylch cartref nain Bryn Jones

Cwmni findmypast gafodd y gwaith o drosglwyddo cofnodion Cyfrifiad 1921 o Gymru a Lloegr ar-lein.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan bod y gwaith wedi digwydd yn unol â Deddf Cyfrifiad 1920 oedd yn gwahardd rhyddhau gwybodaeth bersonol, ac felly bod yna brosesau diogelwch llym.

Er mwyn cadw cyfrinachedd, roedd pob delwedd digidol o'r cofnodion gwreiddiol wedi'u rhannu'n ddarnau fel nad oedd y rhai oedd yn trawsgrifio yn gallu gweld y cofnod cyfan.

'Proses lanhau barhaus'

Yn ôl y llefarydd, dim ond cyfnod byr gafodd y cwmni i baratoi manylion y 38m cofnod oedd wedi'i drawsgrifio cyn eu cyhoeddi ar 6 Ionawr 2022, fel yr oedden nhw wedi ymrwymo i'w wneud.

Ychwanegodd eu bod wedi cytuno gyda'r Archifau Cenedlaethol y byddai'r gwaith o "lanhau" neu gywiro'r cofnodion yn broses barhaus, a'u bod yn awyddus i sicrhau defnyddwyr bod y broses honno eisoes wedi dechrau.

Ond mae Bryn Jones yn credu y dylai rhagor o waith fod wedi'i wneud cyn cyhoeddi'r cofnodion ar-lein.

Ffynhonnell y llun, Yr Archifau Cenedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Cofnod o deulu taid Bryn Jones

"Mae'r dasg yma yn un enfawr.. a dwi ddim yn credu bo' nhw wedi cael ofnadwy o lot o amser i neud hynny," dywedodd.

"Ond fy mhwynt i yw dylen nhw fod wedi aros a gwneud y gwaith yn ddeche, a wedi holi pobl yng Nghymru i edrych ar y gwaith cyn ei gyhoeddi fo.

"Dwi'n meddwl bydde neb arall - dim cwmni arall - yn gallu cyhoeddi rhywbeth efo gymaint o wallau iaith, fel bod o bron â bod yn amhosib edrych i fewn i be 'da chi isho, heb wastraffu lot o amser a lot o bres."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Archifau Cenedlaethol yn Kew eu bod yn ymwybodol o'r mater, a'u bod yn llwyr gefnogol o adolygiad parhaus findmypast o Gyfrifiad 1921 er mwyn cynnig y trawsgrifiad mwyaf cywir posib.

Pynciau cysylltiedig