'Gall llifogydd ym Môn rwystro cerbydau argyfwng'
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon y gall llifogydd cynyddol rwystro cerbydau argyfwng rhag cyrraedd rhai ardaloedd ar Ynys Môn.
Yn ôl trigolion ardal Llangoed a Phenmon, ym mhen dwyreiniol yr ynys, mae'r brif ffordd o Fiwmares eisoes wedi gorfod cau ddwywaith eleni oherwydd llifogydd.
Gyda phryderon fod y broblem achlysurol yn digwydd yn fwy aml, mae galwadau ar Lywodraeth Cymru a'r cyngor sir i gyflwyno datrysiad ar frys.
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru fod cronfa ar gael i Gyngor Môn gyflwyno cais am arian tuag at unrhyw waith posib.
'Pobl yn poeni'
Yn ôl cadeirydd y cyngor cymuned lleol, Delyth Jones, mae adegau wedi bod pan fo'r B5109 wedi cau am hyd at ddeuddydd.
"Mae pobl 'di methu mynd i'r gwaith a cholli apwyntiadau, mae o 'di creu anxiety i bobl wrth feddwl lle mae'r bws ysgol ac os fydd y plant yn gallu dod adra," meddai.
"Mae'n broblem fawr ac yn digwydd fwy a fwy aml... Fy mhryder mwya' i ydy'r ambiwlans a'r fire brigade yn methu dod i fewn, 'dan ni 'di gorfod gwthio am defibrillators yn y pentref achos mae 'na boeni mawr."
Ychwanegodd Alun Foulkes, clerc y cyngor cymuned: "Mae'n amlwg dydy'r system garthffosiaeth ddim ddigon llydan i gymryd y dŵr glaw trwm 'dan ni'n gael, oherwydd hynny mae'n achosi anawsterau i drigolion Llangoed, Llanddona a Phenmon.
"Mae'r henoed yn ddibynnol ar y lôn ac mae'n lôn brysur, mae'n bwysig fod hi'n gallu aros ar agor. Does 'na'm un arall i ddweud y gwir, tydy'r lonydd cefn ddim yn addas."
'Digwydd yn amlach'
Mae'r ardal sy'n dueddol o gael llifogydd ger yr hen ffatri Saunders-Roe ar hyd y B5109 o Fiwmares - fel arfer oherwydd cyfuniad o law a llanw uchel yn deillio o'r agosatrwydd at y môr.
Ond yn ogystal â pheri anhawster i drigolion lleol - gyda'r lôn amgen yn un gul ac anaddas i lawer o gerbydau - mae poeni ychwanegol gan fod cartref henoed Haulfre wedi'i leoli yng nghymuned Llangoed.
Yn ôl un o'r cynghorwyr sir lleol, Gary Pritchard, mae'n digwydd yn amlach nac y bu.
"Yn blwmp ac yn blaen, os 'dan ni'n cael dwy neu dair noson o law trwm mae'r gornel yma rhwng Biwmares a Llangoed yn gorlifo a gwneud hi'n amhosib i draffig fynd heibio," meddai.
"Does ddim angen disgwyl am storm fawr dyddiau yma hyd yn oed.
"Mae pobl yn gorfod ffeindio ffyrdd amgen, sydd wedyn yn creu trafferthion ar y lonydd bychain cefn gwlad.
"'Dan ni ddim wedi cael gaeaf caled ond mae o 'di cau ddwywaith eleni'n barod. Noson o law trwm ac mae pobl yn ofni bydd yn lôn yn cau eto.
"Ond yn beryclach ac yn bwysicach, mae'n gwneud hi'n anodd i'r frigâd dân neu unrhyw ambiwlans gael drwodd."
Er i'r aelod lleol godi'r mater yn y Senedd yn ddiweddar, mae pryder nad yw sefyllfa Llangoed yn cael ei ystyried fel un brys gan nad oes unrhyw gartrefi mewn perygl uniongyrchol o lifogydd.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, AS: "Mae o'n digwydd yn amlach ac yn amlach, ac er nad oes yna dai dan fygythiad o lifogydd uniongyrchol, mae miloedd o gartrefi yn ardaloedd Llangoed a Phenmon yn cael eu hynysu - cartrefi gofal yn methu cael eu cyrraedd, llwybrau gwasanaethau brys yn cael eu torri, ac mae o'n risg gwirioneddol."
Tra'n holi'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn y Senedd, ychwanegodd Mr ap Iorwerth bod angen cynorthwyo awdurdodau lleol i roi cynlluniau at ei gilydd, a dywedodd bod angen ymrwymiad hir dymor i'r gronfa ffyrdd cydnerth mewn blynyddoedd i ddod.
Dywedodd pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Cyngor Môn, Huw Percy, y byddai'r awdurdod yn croesawu cyfle i wneud defnydd pellach o arian grant gan Lywodraeth Cymru o'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth.
"Mae gan y cyngor record dda iawn o ymateb i broblemau llifogydd," meddai.
"Rydym wedi cydweithio gyda chymunedau ac ennill arian grantiau sylweddol er mwyn cwblhau nifer o gynlluniau atal llifogydd o gwmpas yr ynys.
"Yn y cyfamser, byddwn yn bwrw ymlaen i chwilio am ddatrysiadau lleol i broblemau fel yr un a welir ar ffordd y B5109.
"Rydym yn falch y bydd cynlluniau o'r math yma'n cael eu hystyried fel rhai hir dymor gan nad oes datrysiad hawdd - heb waith ymchwil, asesu sylweddol a'r arian angenrheidiol, wrth gwrs, i gwblhau'r gwaith."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi darparu £220,000 i Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer gwaith a allai wella cadernid ffyrdd i Fiwmares, gan gynnwys y B5109 rhwng Biwmares a Llangoed.
"Mae'r grant, a roddwyd drwy ein Cronfa Ffyrdd Gwydn, i'w ddefnyddio ar gyfer dylunio manwl, adroddiad cam 3 Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru a gwaith paratoi tendrau.
"Mae hwn yn gynllun sy'n bodoli eisoes ac, felly, bydd yn rhaid i'r awdurdod lleol nawr gyflwyno cais ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i wneud y gwaith."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2022