Cynllun morglawdd naw troedfedd o uchder yn cythruddo trigolion

  • Cyhoeddwyd
Llun artistFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Ddinbych/Llun artist
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cynllun yn diogelu 2,100 o gartrefi rhag llifogydd, yn ôl y cyngor sir

Mae trigolion ym Mhrestatyn yn dweud y byddan nhw'n colli eu golygfeydd arfordirol a'u preifatrwydd os bydd gwaith i godi morglawdd yn mynd yn ei flaen.

Y bwriad gwreiddiol oedd codi wal naw troedfedd o uchder ger cwrs golff Y Rhyl - ond nawr mae am gael ei chodi ger nifer o fyngalos.

Bydd y wal - gyda llwybr troed a llwybr beicio - yn rhedeg yn union gyferbyn â chartrefi os bydd cynlluniau Cyngor Sir Ddinbych yn cael y golau gwyrdd.

Dywed yr awdurdod eu bod wedi gweithio i gydbwyso anghenion pawb dan sylw ac y bydd y cynllun yn diogelu 2,100 o gartrefi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mike a Jane Stacey yn gwrthwynebu'r cynlluniau'n gryf

Mae Mike a Jane Stacey wedi byw yn eu byngalo ar y ffin rhwng Y Rhyl a Phrestatyn drws nesaf i'r clwb golff ers dros 20 mlynedd.

Maen nhw'n ofni y byddai'r wal, a fyddai'n union y tu allan i'w cartref, yn cael effaith negyddol.

"Os yw'n mynd yn ei flaen yna byddwn wedi colli pob preifatrwydd," meddai Mr Stacey.

"Bydd gennym ni lwybr beicio naw troedfedd o uchder ychydig oddi ar ein heiddo ac nid ydym yn hapus iawn am hynny, yn amlwg.

"Felly nid colli'r olygfa fyddwn ni, ond colli preifatrwydd hefyd, sy'n eithaf sylweddol."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Ddinbych/Llun artist
Disgrifiad o’r llun,

Edrychwyd ar amddiffynfeydd llifogydd eraill, ond roedden nhw bron ddwywaith pris y cynlluniau presennol

Dywedodd Ms Stacey: "Pwy sy'n mynd i fod eisiau edrych allan ar hynny? Dwi'n gwybod nad ydw i eisiau.

"Pe bawn i'n gwybod hynny 25 mlynedd yn ôl fyddwn i ddim wedi symud yma.

"Rwy'n gwybod bod angen amddiffyn y môr ond roedd yn eithaf digonol y ffordd yr oedd yn mynd."

Opsiynau eraill ddwbl y pris

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych fod astudiaeth wedi dangos bod "rhai amddiffynfeydd môr sy'n amddiffyn Prestatyn mewn cyflwr gwael a bydd y risg i eiddo yn cynyddu yn y blynyddoedd i ddod".

"Bydd y cynllun rydym wedi'i ddylunio yn darparu lefel sylweddol o amddiffyniad ychwanegol i 2,100 o eiddo," meddai.

"Rydym wedi gweithio i leihau'r effaith ac i gydbwyso anghenion pawb dan sylw ac mae'r cynigion wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn a helaeth gan ganiatáu i aelodau'r cyhoedd gael dweud eu dweud.

"Roedd hyn hefyd yn cynnwys cyfarfod cyhoeddus, cylchlythyrau a chyfarfodydd wyneb yn wyneb rhwng preswylwyr a staff.

"Fe wnaeth nifer o drigolion fynegi eu pryderon am y cynllun fel rhan o'r ymgynghoriad cynllunio cyn ymgeisio, ac mae'r sylwadau hyn wedi'u bwydo i mewn i'r ymgynghoriad a'r broses gynllunio."

Disgrifiad,

Llyr Gruffydd AS: 'Mae rhai trigolion yn gandryll'

Bydd y cynllun yn costio £20m os caiff ei gymeradwyo, meddai, a bydd yn cael ei ariannu rhwng y cyngor a Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd fod opsiynau amgen wedi costio hyd at £40m.

Mae'r cynghorydd Brian Jones - sy'n arwain ar wastraff, trafnidiaeth a'r amgylchedd ar y cyngor sir - yn dweud bod pobl leol wedi cael, ac yn parhau i gael cyfleoedd i rannu eu hadborth ar y cynigion.

"Oherwydd bod yr ymgynghoriad yn dal ar agor nid yw'r dyluniad terfynol wedi'i hoelio'n llwyr a dyna pam rydyn ni'n parhau â'r ymgynghori."

Pynciau cysylltiedig